Languages

Na nOg logo

Theatr NaNog

Operation Julie - Yr achos cyffuriau yng nghefn gwlad Cymru yn y 70au a shiglodd y byd

Dyma’r fath o stori yr ydych eisoes wedi clywed sibrydion amdani.

Dyma’r fath o stori na fyddwch yn gallu credu ei bod erioed wedi digwydd. Ond byddwch yn siarad â phobl amdani a byddant yn cofio. Byddant yn adnabod pobl a oedd yno.

Mae’n stori sydd wedi esblygu y tu hwnt i bob dirnadaeth ac mae’r ffiniau rhwng y gwirionedd a’r hyn sy’n chwedloniaeth yn rhai amwys. Mae’n stori a gadwodd dafodau’r ardal leol yn brysur, yn ogystal â’r wasg fyd-eang.

Os nad ydych wedi clywed yr hanes, dewch i ni ddechrau drwy adrodd y ffeithiau.

Y Ffeithiau

Operation Julie oedd yr enw a roddwyd ar un o’r gweithrediadau cyffuriau, cudd mwyaf a welodd y DU erioed. Roedd heddluoedd o 11 llu a dros 800 swyddog yn gweithio ar yr achos yng nghanol y saithdegau.

Dechreuodd yr ymchwiliad yn sgil damwain car angheuol ym Machynlleth a roddodd abwyd annisgwyl i’r heddlu a daeth i ben mewn gweithrediad cyffuriau a gydlynwyd ar 26 Mawrth 1977 pan gafodd 120 o bobl eu harestio ledled Cymru, Lloegr a Ffrainc.

Roedd y llwyth cyffuriau y daethpwyd ar ei draws yn anhygoel. Canfuwyd LSD a allai gael ei werthu ar y stryd heddiw am 3570 miliwn. Yn sgil y gweithrediad, tynnwyd 90% o’r LSD o farchnad y DU a achosodd hyn i bris y cyffur esgyn i bum gwaith ei werth stryd cyn 1977.

Ble roedd canolbwynt y gweithrediad? Bryniau gwledig gorllewin Cymru.

Ond… a dyma’r hyn sydd wir yn ddiddorol; mae mwy i’r stori hon na’r ffeithiau’n unig.

Mae’n hanes am ysfa efengylaidd un dyn i drawsffurfio’r ymwybyddiaeth ddynol. Mae’n hanes am bobl eithriadol mewn mannau annisgwyl. Mae’n hanes am weithrediad a drawsnewidiodd blismona Prydeinig am byth. Mae’n hanes am gamsyniadau hunaniaeth, canfyddiadau camarweiniol ac amseru comig.

Mae Theatr na nÓg yn falch i fod yn cydweithio â Chanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth er mwyn cyflwyno’r perfformiad prog-rock, croch hwn o hanes Operation Julie. Cadwch olwg allan ar gyfer ein digwyddiad agoriadol arbennig yn Nhregaron, tarddle’r hanesyn a bydd y digwyddiad yn rhan o ddigwyddiadau ymylol Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2020.

Image: 

Download our app

Download our creative learning app for the classroom and home!

Download on the App storeGet it on Google play

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.