Theatr na nÓg wedi cyhoeddi taith o’r DU o Nye & Jennie, ei stori garu wleidyddol o fri yr hydref hwn.
Bu Aneurin Bevan, a adwaenir yn well fel 'Nye', a’i wraig Jennie Lee yn brwydro gyda'i gilydd am ffordd newydd o fyw i bobl Prydain; ef oedd llais tanbaid cymoedd Cymru ar feinciau cefn Llafur, a ddaeth yn un o’r gwleidyddion enwocaf a welodd y wlad hon erioed, a hithau yn ferch i löwr o Fife a ddaeth yn AS Sosialaidd cyn iddi fod yn ddigon hen i bleidleisio. Gyda'i gilydd teithiodd y ddau trwy fyd tymhestlog gwleidyddiaeth i sefydlu sefydliadau Prydeinig gwych er budd pawb - y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Brifysgol Agored.
Mae’r ddrama bersonol a barddol hon yn cynnig golwg hynod ddifyr ar briodas un o bartneriaethau gwleidyddol mwyaf nodedig yr 20fed Ganrif, a chafodd yr awdur Meredydd Barker ei enwebu ar gyfer y Dramodydd Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru 2017. Mae cast nodedig yn cynnwys Gareth John Bale fel Aneurin Bevan, sydd wedi dychwelyd yn ddiweddar o Efrog Newydd yn perfformio ei rôl arbennig yn sioe un dyn Theatr y Torch, Grav, ac yn dilyn teithio gyda’r Royal Shakespeare Company, Louise Collins fel Jennie Lee. Dyma gyd-gynhyrchiad cyntaf Theatr na nÓg gydag Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, partner naturiol ar gyfer drama am eu harwr lleol.
Dywedodd cyfarwyddwr Nye & Jennie, a chyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg Geinor Styles;
"Y thema barhaus yn ein holl waith fel cwmni yw i adrodd straeon am gymeriadau ysbrydoledig, boed hynny yn sioe gerdd fawr, yn sioeau ar gyfer ysgolion neu’n ddrama prif lwyfan. Roeddem am adrodd stori dau unigolyn rhyfeddol, ill dau o gefndiroedd di-nod a lwyddodd i newid bywydau cenedlaethau o bobl gyffredin."
Mae’r daith yn cyd-daro â 70 mlwyddiant sefydlu'r GIG yn 1948, blwyddyn lle mae myfyrio ar y GIG a’i ddelfrydau sylfaenol yn anochel wedi bod yn y newyddion, gyda chyflawniad Bevan yn cael ei gydnabod a’i ddathlu ledled y wlad.
Mae tocynnau eisoes ar werth mewn rhai lleoliadau yng Nghymru, a chaiff taith lawn y DU ei chyhoeddi’n fuan yn nyeandjennie.com