Languages

Charlotte a'r Cawr

Mae aelodau Ysgol Berfformio Soar wedi bod yn gweithio’n galed dros y tymor diwethaf i ddod a sgript Geinor Styles o ‘Charlotte a’r Cawr’ yn fyw! Mae’r grŵp yn cynnwys cymysgedd o blant o 5-12 mlwydd oed oedd wedi gweithio’n frwdfrydig fel cwmni i greu'r ddrama 40 munud llawn golygfeydd, dawnsio a chlipiau ffilm creuwyd y plant eu hunan ymlaen llaw.

Mae’r stori yn dilyn hanes Charlotte Guest nôl yn yr 19eg ganrif. Roedd Charlotte yn ymwybodol o ba mor bwysig oedd addysg a’u pwer i ‘ddangos y Byd mewn ffordd wahanol,’ Roedd Charlotte yn benderfynol o adeiladu ysgol ar gyfer y plant oedd yn gweithio yn y stablau i alluogi nhw i dderbyn addysg. Ond mae’r plant yn y ddrama yn poeni am golli arian am eu teuluoedd ac yn gosod allan i berswadio Charlotte nad oes angen iddyn nhw fynd i’r ysgol, a bod nhw’n gallu dychmygu a chreu’n barod. Maen nhw’n penderfynu adrodd storiâu’r Mabinogi iddi ac ar ôl dadlau dros eu hoff un, mae’r plant yn dewis adrodd hanes ‘Culhwch ac Olwen’.

Roedd Charlotte yn ieithydd o fry felly pan cyrhaeddodd hi Gymru, roedd hi’n benderfynol o ddysgu Cymraeg. Caniataodd hyn iddi allu cyfieithu storiâu’r Mabinogi i Saesneg yn 1838, ac rydym ni fel cynulleidfa yn rhannu’r foment lle mae Charlotte yn clywed y chwedlau am y tro cyntaf gan y plant.

Es i i Theatr Soar i gefnogi’r grwp gyda’r set a gwisgoedd. Roedd hi’n brofiad gwych gweithio gyda Emma, Mirain ar blant i greu drama mor lliwgar â chyffrous. Ar noson y sioe roedd pawb yn aros ar bwys organ Soar cyn dringo’r grisiau i berfformio i’w rhieni. Sibrydodd un o’r aelodau ieuengaf i fi cyn dechrau; “Fi’n mooooor ecseited,” yn troi’n goch!

Roedd hi’n hyfryd gweld y plant i gyd gyda’r un teimlad o gyffro, yn barod i berfformio a trio’u gorau. Mae’n wirioneddol yn dyst i ba mor galed y mae’r grŵp yn gweithio trwy gydol y flwyddyn i hybu hyder y plant.

Rhaid i fi ddiolch i bawb yn theatr Soar am y croeso cynnes, a dwi’n edrych ymlaen at weld pa fath o gynyrchiadau bydden nhw’n creu yn y dyfodol!

Image: 

Gyda'ch cefnogaeth chi, gallen neud lot mwy.

Helpwch ni i danio dychymyg cenedl

With your support, we can do more.

Help us ignite the imagination of the nation

Mae Theatr na nÓg yn elusen gorfrestredig yng Nghmru a Lloegr
(515903) ac yn gwmni cyfyngedig drwy warrant.
Theatr na nÓg is a charity registered in England and Wales
(515903) and a company limited by guarantee.

Copyright © Theatr NaNog.
Designed by Hoffi using Drupal