Cyfarfod Cefn Llwyfan
YMUNWCH Â NI AM GYFARFOD CEFN LLWYFAN
Wrth i 2020 gychwyn, roeddem ni yn Theatr na nÓg yn edrych ymlaen at
flwyddyn newydd o sioeau cyffrous a chydweithio â phartneriaid ac
ymarferwyr creadigo newydd.
Pwy allai fod wedi dychmygu bryd hynny sut y
byddai covid-19 yn cael cymaint o effaith ar ein bywydau i gyd.
Serch hyn, er gwaethaf yr ansicrwydd sy'n dal i wynebu pob un ohonom, mae
Theatr na nÓg wedi bod yn gweithio'n ddi-ffaid i gynllunio amrywiaeth o waith
theatr gyffrous ac uchelgeisiol i ddiddori a swyno cynulleidfaoedd Cymru yn
2021.
Rydym felly yn bachu ar y cyfle hwn i estyn allan i’r hol weithwyr llawrhydd
sy’n gweithio y tu ôl i'r llen yn ein diwydiant ac sy'n hanfodol i'r hud sydd yn
cael eu creu ar lwyfan; y Rheolwyr Llwyfan, y Technegwyr, y Gweithwyr
Gwisgoedd i enwi ond ychydig. Os nad ydych wedi gweithio gyda ni o'r blaen
neu'n awyddus i weithio gyda ni eto yna byddem wrth ein bodd yn clywed
gennych.
Am fwy o wybodaeth ac i gofrestri ewch i'r PDF isod.
- nanogadmin's blog
- Log in to post comments
Monthly archive
- February 2013 (1)
- April 2013 (2)
- May 2013 (4)
- June 2013 (2)
- October 2013 (1)
- July 2016 (6)
- August 2016 (2)
- September 2016 (1)
- November 2016 (3)
- February 2017 (2)