Plant Ysgol yn dyfeisio ap newydd i’r ystafell ddosbarth wrth Gydweithio’n Greadigol â Theatr Aml-wobrwyedig a Technolegwyr Proffesiynol
Mewn partneriaeth unigryw rhwng pedair ysgol gynradd, cwmni theatr aml-wobrwyedig a chwmni technoleg a leolir yn Abertawe, aeth prosiect ap newydd sbon rhagddi y gwanwyn hwn.
Nid yn aml fydd ap i blant yn cael ei greu gan blant, ond dyna sydd wrth wraidd ethos y prosiect hwn. Aeth yr ap yn fyw yr wythnos hon mewn digwyddiad arbennig yng ngofal Ysgol Gynradd Sgeti ar gyfer datblygwyr ifanc yr ap a phartneriaid y prosiect. Bellach mae ar gael i’w lawrlwytho am ddim o App Store a Google Play.
"We wanted to give young, creative minds the same tools and industry support that any professional company or organisation looking to create a successful educational app would have access to. Our award-winning productions often tell inspirational stories, challenging preconceptions about what people are capable of, and we’ve been delighted that this exciting project has delivered just that to our local community"
Nancy Sheterline, Rheolwr Marchnata, y Wasg a Chyfathrebu yn Theatr na nÓg
Dros gyfnod o 4 mis, bu disgyblion blynyddoedd 4, 5 a 6 o Ysgolion Cynradd Ystumllwynarth, Sgeti, Cwmafan a Trelales yn cael eu hyfforddi a’u cefnogi gan Gwmni Technoleg Dysgu Aspire2Be a Theatr na nÓg. Roedd y plant ynghlwm wrth bob cam o’r broses ddatblygu – o greu brîff, i ddylunio’r strwythur, eiconau, golwg a naws, yn ogystal â chreu’r cynnwys rhyngweithiol.
Caiff yr ap, sy’n llawn dop o weithgareddau rhyngweithiol, heriau ystafell ddosbarth a chynnwys o’r tu ôl i’r llenni, ei ddefnyddio gan gannoedd o ysgolion ledled y DI a thu hwnt. Bydd yn ysbrydoli prosiectau creadigol yn yr ystafell ddosbarth sy’n ymwneud â phynciau fel Newid Hinsawdd, bioamrywiaeth, cymdeithas ac iechyd, cynhyrchiadau theatr a systemau tywydd.
Mae’r holl bynciau ar yr ap yn berthnasol i themâu cynyrchiadau gwobrwyedig Theatr na nÓg’s i ysgolion.
Mae’r ap hefyd yn cynnwys pentwr helaeth o gynlluniau gwersi a grëwyd gan dîm o athrawon, sy’n berthnasol i gynnwys newydd Cwricwlwm i Gymru. Â hithau’n gyfnod cyffrous i addysg yng Nghymru, mae’r prosiect hwn yn arddangos pŵer technoleg a chreadigrwydd ar y cyd ar gyfer addysgu’r genhedlaeth nesaf.
Derbyniodd y prosiect arloesol hwn dros £10,000 o nawdd oddi wrth Gronfa Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru, a chefnogaeth gan Western Power Distribution, The Colwinston Trust and Arts & Business Cymru.
Mae’r ap yn rhad ac am ddim ac ar gael wrth chwilio am ‘Theatr na nÓg’ ym mhob prif ddarparwr ap.
Bydd Theatr na nÓg yn mynd ar daith ledled y DU yn yr hydref â sioe gerdd wreiddiol am newid hinsawdd, Eye of the Storm (Enillydd Sioe Orau i Blant a Phobl Ifanc Gwobrau Theatr Cymru 2018) a chyflwyno’r Heliwr Pili Pala, cynhyrchiad newydd am wyddonydd o Gymro enwog, Alfred Russel Wallace a wnaeth ddarganfod theori esblygiad yn annibynnol o Charles Darwin, a hynny am gyfnod o 7 wythnos yn ysgolion Abertawe drwy gydol misoedd Medi a Hydref.

- nanogadmin's blog
- Log in to post comments
Monthly archive
- February 2013 (1)
- April 2013 (2)
- May 2013 (4)
- June 2013 (2)
- October 2013 (1)
- July 2016 (6)
- August 2016 (2)
- September 2016 (1)
- November 2016 (3)
- February 2017 (2)