Helo a chroeso i Theatr na n'Óg! Cymerwch gipolwg ar ein sioeau newydd cyffrous a chwiliwch drwy ein hen gynhyrchiadau fythgofiadwy. Mwynhewch.
Mae 2011 wedi bod yn flwyddyn prysur a chyffrous a dweud y lleiaf. Diolch yn fawr iawn i'n cefnogwyr brwd ni. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae'n amser i droi ein meddyliau creadigol i 2012; blwyddyn a fydd yn orlawn o straeon hudolus a gafaelgar.
Dewch i ymuno â'r antur ...
Uchafbwyntiau a newyddion Theatr na n'Óg 2011.
Ar ddechrau 2012 mi fydd Chwedlau Aesop gan Keiron Self yn cychwyn ar daith o gwmpas Y Deyrnas Unedig yn ymweld a theatrau newydd yn yr Alban, Leeds, Ipswich a Llundain. Dy'n ni methu aros.
Ag ym mis Ebrill mi fydd sioe newydd sbon ar ei ffordd allan i ddiddanu plant hyfryd Cymru...mwy o wybodaeth i ddod mis nesa!
Cymerwch gipolwg isod ar ein blogiau diweddaraf hefyd.
(Ag os nad yw hwnna'n ddigon, edrychwch mas am newyddion cyffroes oddiwrth Canolfan Mileniwm Cymru a Theatr na n'Óg)











Follow us on: