Ynglŷn â’r wefan hon

Sut mae'r wefan hon yn ceisio mynd i'r afael â'r mater o hygyrchedd ac ystyriaethau dylunio eraill

Defnyddir y we gan filiynau lawer o bobl. Mae ystod o rwystrau y mae rhai ohonynt yn eu hwynebu mewn bywyd, yn cynnwys dallineb lliw, golwg gwael, dallineb llwyr a nam ar eu symudiadau motor. Er mai ychydig yn unig o enghreifftiau yw'r rhain, ac mae llawer o rai eraill yn bodoli, mae'n hawdd deall bod anawsterau o'r fath yn effeithio ar brofiad y bobl hyn o'r rhyngrwyd.


Mae hygyrchedd yn nhermau'r We Fyd Eang yn golygu darparu ar gyfer pob defnyddiwr, gan geisio sicrhau y gall bawb gael y gorau allan o wefan yn ôl eu gallu. Ni ddylai unrhyw un gael eu rhwystro gan ddylunio gwael.


Nid yw hygyrchedd ar gyfer yr anabl yn unig; mae safle hygyrch yn gwneud llywio, dosbarthu gwybodaeth a defnydd cyffredinol mor hawdd a greddfol â phosib i bawb. Mae hefyd yn cynnig y fantais ychwanegol o well amlygrwydd o ran peiriannau chwilio.

Mae'r wefan hon yn anelu at fod mor gyflawn a hawdd ei defnyddio â phosib i bob grŵp o bobl yn defnyddio pob math o gyfarpar. Cafodd ei phrofi yn erbyn canllawiau WAI ac mae'n cyflawni isafswm o gydymffurfio lefel dau allan o dair lefel posib. Er na all unrhyw wefan gynnig hygyrchedd perffaith i bawb, ac ni all unrhyw set o brofion awtomataidd ddarparu meincnodau ystyrlon ar gyfer pob sefyllfa, rydw i wedi dylunio'r wefan hon gan gadw hygyrchedd mewn cof.

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News