Datganiad Artistig
Cenhadaeth a Gwerthoedd Artistig
Ein cenhadaeth yw ysgogi dychymyg a chyfoethogi bywydau’r cynulleidfaoedd sy’n gwylio a chymryd rhan yn ein perfformiadau. Rydym yn gwneud hyn drwy theatr ymgysylltiol o ansawdd uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Diffinnir Theatr na n’Óg gan ei waith sy'n emosiynol ymgysylltiol, ac yn adrodd stori dda bob tro nas anghofir byth.
Anela’r gwaith at fod yn:
• Atseiniol – sbarduno syniadau, teimladau, cwestiynau amdanoch chi’ch hun a’r byd
• Ymgysylltiol – procio eich emosiynau a thanio’ch dychymyg
• Hwyl, cyffrous ac adloniadol – pwrpas difrifol sy’n codi’r ysbryd
Rydym ni yn cynhyrchu sioeau sy'n apelio at bob oedran, gan deithio ledled Cymru a thu hwnt i gyrraedd ein cynulleidfaoedd. Rhan sylweddol o'n gwaith yw ymweld ag ysgolion Cymru gan hefyd cynnig siawns i'r ysgolion ymweld a ni yn ystod ein preswylfa blynyddol yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe.
Mae'r cwmni hefyd yn teithio gyda cynhyrchiadau llawer yn fwy ag yn gweithio gydag ysgrifennu newydd yn ogystal a addasiadau o glasuron i bob oedran.










Follow us on: