Dathlu chwarter canrif o theatr safonol

Dechreuwyd y cwmni ym 1982 a sefydlodd ei hun yn gyflym fel theatr leol broffesiynol boblogaidd iawn, yn cynnig gwasanaeth a oedd yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan ysgolion a chymunedau yn Sir Gorllewin Morgannwg ac yn genedlaethol ledled Cymru, yn Saesneg ac yn y Gymraeg. Fe lwyddodd y tîm bach i greu argraff mawr ar ganolfannau cymunedol, neuaddau lleol, clybiau a hyd yn oed yng ngharchar Abertawe.

Ym 1988 y cwmni oedd y cyntaf o’i math i gael ei sioe radio ei hun, “Atodiad Lliw”, a'r flwyddyn ganlynol nhw oedd y cwmni theatr cyntaf yng Nghymru i ddyfeisio, sgriptio a pherfformio cyfres deledu, ‘Day Return/ Tocyn Diwrnod’. Ym 1992 symudodd y cwmni i'w cartref newydd yn Heol Millands, Castell Nedd a gyda'u gweithdy, ardal ymarfer a swyddfeydd eu hun roedd eu cartref newydd yn gam mawr ymlaen iddynt.

Cynhyrchiad a oedd yn garreg filltir i'r cwmni oedd cyfieithiad Manon Eames i'r Gymraeg o ddrama Willy Russell “Shirley Valentine” ym 1993, gyda pherfformiadau yn gwerthu allan ledled Cymru. Yn y blynyddoedd nesaf, gwelwyd y cwmni yn datblygu a newid ymhellach gydag aelodau newydd, prosiectau a theithiau mwy fyth. 

Ym 1997 sefydlodd y cwmni eu hun fel cynhyrchydd gwaith llwyfannau mawr gyda'r perfformiad cyntaf yn y byd o addasiad o “Rape of the Fair Country” mewn partneriaeth â Theatr y Grand Abertawe. Yn ogystal, hefyd teithwyd eu gwaith i Loegr a'r Iwerddon, gyda chynyrchiadau cofiadwy fel "Cider with Rosie" a "A Child's Christmas in Wales".

Ym 1998, cynhyrchodd Theatr Gorllewin Morgannwg eu preswyliaeth 3 mis cyntaf yn Theatr Dylan Thomas yn Abertawe. Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, mae'r prosiect llwyddiannus hwn bellach yn ei 11eg flwyddyn ac mae'n perfformio i 5000 o blant ysgol y flwyddyn. Mae’r cynhyrchiadau â themau hanesyddol yn cynnig amrywiaeth unigryw o hanes leol a drama i lawer o ysgolion siroedd Abertawe, Castell Nedd, Port Talbot a Phen-y-Bont ar Ogwr. 

 Mae'r Cwmni wedi datblygu a gwella eu darpariaeth i ysgolion gydag ymgynghoriaeth gwerthfawr tu hwnt gydag athrawon ac athrawon ymgynghorol o’r tri awdurdod.

Mae ein cynllun artistig 3 mlynedd presennol yn cynnwys cyfoeth o waith sy'n gwella ein rhaglen i ysgolion, yn cryfhau ein partneriaethau â lleoliadau allweddol yng Nghymru a thu hwnt, ac yn esblygu ein huchelgeisiau creadigol drwy weithio gydag amgueddfeydd, orielau a gerddi botaneg.

Rydym hefyd yn frwd dros edrych ar ddulliau newydd o ymgysylltu pobl ifanc â'r celfyddydau drwy ddefnyddio cyfryngau newydd a TG drwy ein cydweithrediad agos â Webplay, rhaglen we ryngwladol yn cysylltu'r celfyddydau creadigol â dysgu yn yr 21ain ganrif.

" alt="" title="" />

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News