Theatr na n'Og yn mynd i Brazil

Bydd y Museum da Vida yn Rio de Janeiro yn cyflwyno drama ddyrys a chyffrous  Theatr na n’Óg am Alfred Russel Wallace, cyd-grëwr Origin of Species. 

Drama yw “You Should Ask Wallace” sy’n adrodd stori wir y naturiaethwr athrylithgar o Gymru sy’n darganfod Theori Esblygiad ac yn rhannu’r syniad gyda Charles Darwin, gan ysgogi Darwin i gyhoeddi ei waith arloesol - “Origin of Species”.

Wedi’i hysgrifennu’n wreiddiol gan gyfarwyddwr artistig y Cwmni Geinor Styles i’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne yn 2008, mae’r ddrama wedi’i pherfformio gan yr actor Ioan Hefin yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a Chanolfan Dysgu Gydol Oes Gartholwg. Perfformiwyd y ddrama yn y Gymraeg a’r Saesneg fel rhan o’r Wythnos Gwyddoniaeth a Pheirianneg Genedlaethol ddiweddar.

Ychydig iawn sy’n hysbys am Wallace, y gwyddonydd a addysgodd ei hun, a anwyd yn Llanbadoc, Sir Fynwy. Treuliodd ei flynyddoedd fel gŵr ifanc yng Nghastell-nedd yn arolygu’r tir i’r rheilffyrdd, cyn mentro i diroedd gwyllt yr Amazon i gasglu ac archwilio rhywogaethau newydd fel rhan o’i ymgais i ddarganfod theori esblygiad.

Bydd perfformio’r ddrama yn y Portwgeeg yn cyd-fynd ag agor arddangosfa newydd ar sut ysbrydolodd bioamrywiaeth Brasil Wallace a Darwin i gadarnhau theori esblygiad.

Mae Luisa Massarani, Cyfarwyddwr yr Amgueddfa wrth ei bodd i weld y ddrama yn cael ei pherfformio yn Brasil, ac mae’n egluro, “Mae’r Amgueddfa’n gysylltiedig â Sefydliad Oswaldo Cruz, sefydliad ymchwil pwysig â chysylltiad â’r Weinidogaeth Iechyd, ac rydym wedi’n lleoli yn slymiau mwyaf a thlotaf America Ladin, a byddwn yn lledu’r gair am Wallace ymysg cymunedau incwm isel.”

Eglura Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na n’Óg, “Yn eironig gadawodd  Alfred Russel Wallace Castell-nedd i fynd ar ei daith gyntaf i’r Amazon, ac mae Theatr na n’Óg yn dilyn ôl ei droed gyda’r stori hon. Mae’r profi unwaith eto bod gan waith sydd wedi tarddu a chael ei gynhyrchu gan gwmni bach lleol yng Nghymru  apêl ryngwladol.  Mae’n gyffrous iawn y bydd miloedd o blant o rai o ardaloedd tlotaf Rio yn cael cyfle i weld y gwaith, a dysgu am ddigwyddiad mor bwysig mewn hanes.”

 

Sylwadau

This show was fantastic

Watch out for this show when next Autumn at the Dylan Thomas Theatre Swandses

Dweud eich dweud

eich neges

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News