Non Haf - am enw berffaith am wenynen
Fe wnaethon ni holi Non Haf am ei phrofiadau fel y wenynen gyfrifol yn y sioe ' Gwobr y Gwenyn Gwerthfawr', a dyma beth oedd ganddi i'w ddweud ..... a oes gyda chi gwestiwn i un o'n actorion?
Shwt mae'n mynd mor belled?
' Mae'n mynd yn dda diolch. Mae'r sioe i weld yn cael ymateb positif iawn. Gan ein bod mewn lleoliadau gwahanol bob dydd, dwi'n teimlo bod hynny'n cadw'r sioe yn ffresh i ni fel actorion. Mae hi wir yn hyfryd i weld ymateb y plant ir sioe.'
2: Beth yw'r peth gorau am eich cymeriad?
' Mae Bron yn chwareus iawn, ac mae na lawer o hwyl yn y sioe. Mae ei pherthynas gyda Byrti yn hyfryd - mi wnawn nhw unrhywbeth i'w gilydd! Ond Bron yn bendant ydi'r bos!!
3: Mae'n daith hir yn wyth wythnos o hyd - ydy'r gwenyn wedi blino?
' Mae na wastad adegau blinedig ar daith fel hon, yn enwedig gan nad ydw i'n cael cyfle i fynd adre yn aml. Ond mae ymateb y plant bob tro yn cadw pethau i fynd. Mae nhw mor frwdfrydig, ac mae hynny'n golygu fod rhaid i ni roi 100% bob tro hefyd. Rydan ni fel criw hefyd yn edrych mlaen i ymweld gyda theatrau a llefydd newydd.'
4: Beth sydd orau gyda ti am dy gymeriad? A'r peth gwaethaf?
' Dwi'n mwynhau'n fawr cael cyfarfod gyda'r plant. Dwi'n cofio un fam yn dod ata i eisiau llun ohona i gyda'r plentyn gan mai dyna'r tro cyntaf iddi fynd gyda'r ferch fach i'r theatr. Mae pethau felna'n aros efo chi!'
- Blog nanog
- Mewngofnodwch er mwyn postio sylwadau
Archif Misol
- Chwefror 2013 (1)
- Ebrill 2013 (2)
- Mai 2013 (4)
- Mehefin 2013 (2)
- Hydref 2013 (1)
- Gorffennaf 2016 (6)
- Awst 2016 (2)
- Medi 2016 (1)
- Tachwedd 2016 (3)
- Chwefror 2017 (2)