- English
- Cymraeg
Diolch gwirfoddolwyr!
Mae Theatr na nÓg eisiau dweud DIOLCH enfawr i ein gwirfoddolwyr ffantastig sydd wedi helpu allan gydag ein cynhyrchiad Heliwr Pili Pala yn ystod tymor yr Hydref. Roedd Kris, Karen, Abi, Geraldine, Haydn a Jenny yn edrych ar ôl y gweithdai yn Amgueddfa Abertawe ac yn tywys yr ysgolion o gwmpas Marina Abertawe. Roedd pob gwirfoddolwr wedi taflu eu hun mewn i fyd Alfred Russel Wallace ac wedi cadw sylw'r disgyblion trwy’r dydd.
Basen ni 'di methu neud e hebddoch chi! Dyma rhai o’r sylwadau gan athrawon a ddaeth i ddangos pa mor amhrisiadwy mae ein gwirfoddolwyr:
“Roedd y plant wedi mwynhau'r ymweliad i’r amgueddfa, roedden nhw’n hoffi edrych ar yr arteffactau ac yn siarad â’r gwirfoddolwyr ardderchog. Roedd y gwirfoddolwyr wedi neud yr ymweliad yn gwerthfawr”.
“Roedd y gwirfoddolwyr yn rhedeg y gweithgareddau yn gyfeillgar, yn denu sylw ac yn cefnogi'r disgyblion”.
Mae Kris, un o ein gwirfoddolwyr sydd yn astudio Drama Gymhwysol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, wedi rhannu ei farn ar ei brofiad gyda Theatr na nÓg yr Hydref yma: “Roedd hi’n brofiad hyfryd i gwrdd â rhyngweithio gyda’r plant o ysgolion gwahanol, roedden nhw’n chwilfrydig ac yn llawn egni. Nes i fwynhau'r gwaith yn y ddwy amgueddfa a hoffwn i helpu gydag unrhyw brosiectau arall sydd yn dod lan. Roedd y profiad yn dda ar gyfer fy ngwaith yn y dyfodol, diolch”.
Bydd llawer o gyfleoedd i ein gwirfoddolwyr yn 2020, ac os hoffech chi gymryd rhan plîs cysylltwch Carys ar 01639 641771 neu trwy e-bost ambassadors@theatr-nanog.co.uk. Diolch!

- Blog nanogadmin
- Mewngofnodwch er mwyn postio sylwadau
Archif Misol
- Chwefror 2013 (1)
- Ebrill 2013 (2)
- Mai 2013 (4)
- Mehefin 2013 (2)
- Hydref 2013 (1)
- Gorffennaf 2016 (6)
- Awst 2016 (2)
- Medi 2016 (1)
- Tachwedd 2016 (3)
- Chwefror 2017 (2)