Theatr mewn Addysg
Ansawdd Uchel, Ysbrydoledig, Ymgysylltiol ac Addysgol
Rydym yn falch iawn o'n perthynas â'r sector addysg. Mae ein holl waith Theatr mewn Addysg yn cael ei lywio gan drafodaethau manwl gydag athrawon sy'n ein helpu i ddatblygu gwaith sy'n unol â'r cwricwlwm cenedlaethol. Mae hyn wrth wraidd y cwmni, a dyma sy'n ein sbarduno i gynyddu ansawdd ac ehangder ein gwaith, nid mewn ysgolion yn unig ond ar draws Cymru drwy Theatr prif ffrwd.
Rydym yn cynhyrchu 2 gynhyrchiad i ysgolion bob blwyddyn:
- Bob gwanwyn rydym yn teithio ein cynhyrchiad Cyfnod Sylfaen i flynyddoedd 1 & 2, sy'n teithio ledled siroedd Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a Phen-y-Bont ar Ogwr. Gan archwilio themâu a sgiliau sy'n rhan o fframwaith y cwricwlwm, mae'r sioeau hyn yn cynnig profiad theatrig cyntaf gwefreiddiol, rhai na fyddant byth yn cael eu hanghofio!
- Bob hydref rydym yn llwyfannu ein cynhyrchiad yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe i flynyddoedd 5 & 6. Mae ein preswyliaeth 3 mis yn ein galluogi i gynnig profiad theatrig a hanesyddol llawn, i gyd mewn un ymweliad! Bydd pob ysgol sy'n gweld ein sioe hefyd yn ymweld ag Amgueddfa Abertawe sydd gerllaw'r theatr i gymryd rhan mewn gweithdai ac archwilio rhai o'r themâu hanesyddol a godwyd yn y sioe.
"The children were 'wowed' by the performance and written based tasks afterward on the topic were keenly taken on...All in all a huge success and a must for any class to see every year."
Pentrechwyth Primary School, Swansea.
This years Autumn production is The Butterfly Hunter.
More Pages









