Gwybodaeth

Chwedlau Aesop 21ain Chwefror - 17eg Mehefin, 2011

Daw Llygoden, Llew a Chrwban at ei gilydd i adrodd y straeon moesol mwyaf enwog hyn, ond mewn ffordd unigryw eu hun. Mor berthnasol nawr ag oeddent erioed, cyflwynir y chwedlonnau yma gydag egni byrlymus a fydd yn sicr o ddiddanu.

Yr hyn mae'r brosiect yn cynnig

  • Cynhyrchiad proffesiynol o 'Chwedlau Aesop' yn eich ysgol
  • Adnoddau cefnogol rhyngweithiol a deinamig yn rhad ac am ddim
  • Blaenwelediad i athrawon
  • Gweithdai Drama opsiynol (gweler yr adran Allgymorth)

Beth yw'r gwerth?

  • Mae'n rhoi cyfle i blant wylio perfformiad theatr byw
  • Mae'n ffordd ymgysylltiol o ddysgu
  • Mae'n rhoi i ddisgyblion gyfoethogiad diwylliannol, gan waredu'r ddelwedd o theatr fel gweithgaredd aruchel nad oes gan y rhan fwyaf o bobl ddiddordeb ynddo
  • Mae'r profiad yn gofiadwy ac yn ysbrydoledig
  • Mae'n rhoi profiad gyffrous a llawn sbri i ddisgyblion, y mae'r athrawon yn ei defnyddio i sbarduno dysgu pellach
  • Mae llawer o ysgolion yn defnyddio'r prosiect fel adnodd y mae llawer o gynllunio cwricwlaidd yn digwydd o'i gwmpas
  • Mae'r cynyrchiadau, adnoddau addysgiadol a'r gweithdai drama ar gael yn Saesneg neu yn Gymraeg

 

Yr hyn mae athrawon yn ei ddweud...

"Roedd y plant wrth eu boddau! Sioe lliwgar, byrlymus, llawn hiwmor. Digonedd o ddeunyddiau ar gyfer gwaith iaith ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol. Profiad bendigedig i'r plant a'r athrawon!"  

Ysgol Y Ferch o'r Sger, Pen-y-Bont ar Ogwr

 

"Perfformiad gwych! Actorion yn chwarae rhan y cymeriadau yn effeithiol. Roedd y plant wedi mwynhau pob munud o'r perfformiad yn enwedig y cyfle i glywed yr offerynnau amrywiol a'r canu hyfryd."

Ysgol Y Wern, Castell nedd

 

"Cafodd y plant brofiad gwych ac maent yn ffodus iawn i gael y cyfle i weld darn mor safonol o Theatr mewn Addysg. Mae themâu'r ddrama yn gweddu'n berffaith i'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac yn cynorthwyo'r ysgol wrth gyflwyno'r Cwricwlwm Cymreig yn y dosbarth. Mae'r holl blant nawr yn edrych ymlaen at gwblhau eu gwaith - felly mae'r athrawon ar ben eu digon!"

Ysgol Gynradd Garth, Pen-y-Bont ar Ogwr

 

 

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News