Secondiadau Athrawon
Datblygu Adnoddau Addysgol
Rydym yn secondio athrawon ysgol i weithio ochr yn ochr â'n Swyddog Addysg wrth ddatblygu adnoddau addysgol i gydfynd â'n cynyrchiadau. Rhoddir yr adnoddau hyn yn rhad ac am ddim ac maent yn amlygu'r themâu a'r syniadau y mae'r cynyrchiadau yn eu cyflwyno. Maent yn darparu ffordd i'r dysgu barhau pan yn ôl yn y dosbarth a chyfoethogi'r profiad i'r disgyblion.
Fel arfer trefnir y secondiadau dros ddau neu dri diwrnod a bydd Theatr na n'Óg yn talu am athrawon cyflenwi er mwyn rhyddhau athrawon.
Rydym yn gwerthfawrogi cyfraniad athrawon ar y prosiectau hyn yn fawr gan ein bod bob amser yn ceisio gwneud ein gwaith yn berthnasol ac yn arloesol. Mae galluogi athrawon i weithio gyda ni hefyd yn cyfrannu at eu Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
Os oes diddordeb gennych mewn cael eich secondio i'r cwmni, cysylltwch â Rachel Lloyd (Swyddog Addysg) rachel@theatr-nanog.co.uk.










Follow us on: