Mae Elanor yn Ddylunydd Goleuadau toreithiog sy'n byw yng Nghymru, gan oleuo cynyrchiadau ar gyfer Theatr, Opera, Dawns, Sioeau Cerdd a Theatr Plant mewn theatrau a lleoliadau o bob maint yn ogystal â lleoedd penodol a safleoedd a chanfuwyd. Mae ei gwaith wedi mynd â hi ledled y DU ac yn rhyngwladol gan gynnwys Iwerddon, Sbaen a Thŷ Opera Sydney Awstralia.

Cyn cychwyn ar yrfa ar ei liwt ei hun, bu’n gweithio fel technegydd goleuo amser llawn i Opera Cenedlaethol Cymru, The Royal National Theatre a dechreuodd ei gyrfa yn Leicester Haymarket.

Graddiodd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle mae'n dychwelyd fel darlithydd rheolaidd mewn Goleuo Llwyfan a Theatr Dechnegol.

Mae ei Dyluniadau Goleuo Diweddar yn cynnwys: -
Ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru - 'Madam Butterfly', Hydref 2021. Enwebwyd 'Rhondda Rips it Up' yng Ngwobrau Opera Rhyngwladol 2019, categori dangosiad cyntaf y byd ac yng Ngwobrau Celfyddydau Sky South Bank 2019. Operâu cynharach ar gyfer adran Max WNO - 'Sweeny Todd', 'Rakes Progress' a 'The Real Princess'.

Ar gyfer Theatr na nÓg - 'Eye of the Storm' (gwobrau Theatr Cymru 2018), ‘Y Bluen Wen’, ‘Y Gelyn Cudd’, 'Gwobr y Gwenyn Gweithgar’, ‘Ysbryd y Pwll’
Ar gyfer Freckle and Scamp - Sioeau plant arobryn 'Stickman', 'Tiddler and Other Terrific Tales', 'Scare Crows Wedding' a 'Private Peaceful'.

Ar gyfer Theatr Genedlaethol Cymru- 'Pryd Mae'r Haf?', Cynhyrchiad ar y cyd gyda Criw Brwd a TOR. ‘Merched Caerdydd’ a ‘Nos Sadwrn o Hyd’, ‘Hollti’, ’Chwalfa’, ‘Y Negesydd’, ‘Pridd’, ‘Dyled Eileen’ a ‘Sgint’.

Mae ei chynyrchiadau eraill yn cynnwys - Canolfan Mileniwm Cymru a Likely Story 'Red', We Made This ‘The girl with the incredibly long hair’, Illumine Theatre Company ‘2023’, Neontopia ‘A good clean Heart’ a Omidaze cast menywod ‘Richard III’ a Henry VI.