Mae gan Emma yrfa hir a nodedig mewn hyfforddiant lleisiol ar gyfer ffilm, teledu a theatr ac mae wedi bod yn helpu pobl i gyflawni eu nodau ers 2004. Mae hi wedi gweithio gyda nifer o bobl o sawl cefndir. Mae ei chleientiaid wedi cynnwys Rebekah Staton (Ordinary Lies), Rod Hallet (Ant Man), Rhod Gilbert, Ed Stoppard (Upstairs Downstairs), Gabriella Marcinkova (360), Sharon Morgan, Lee Jones (The Bastard Executioner/Home & Away), Sam Spruell (Snow White and the Huntsman), Gareth Bale, Katey Segal (Married with Kids), Kurt Stutter (Sons of Anarchy), Scott Haran, Darren Evans, Sara Lloyd-Gregory, Pooneh Hajimohammadi (The Machine), Leona Vaughan (Wolf Blood, Stella) and Yasmin Paige (Submarine). Yn fwy diweddar Emma oedd yr Hyfforddwr Acenion ar 'Grav' Regan Productions ar gyfer S4C ac mae'n dechrau gweithio ar 'Tom Jones' i Mammoth Productions ar gyfer ITV ym mis Medi 2021.
Mae hi hefyd yn ceisio dysgu Cymraeg!