Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Technocamps, Theatr Brycheiniog a'r Gaer


Pam fod yna gymaint o wahanol rywogaethau? I ba bwrpas?


Mae Theatr na nÓg yn eich gwahodd i ddod ar antur gydag un o’r gwyddonwyr gorau a fu erioed wrth iddo geisio ateb y cwestiwn mawr pwysig hwn.


Ag yntau wedi ei eni yng Nghymru, daeth Alfred Russel Wallace ar draws theori esblygiad yn ystod yr un amser â Charles Darwin. Dewch ar fordaith anhygoel o Gymru i Frasil ac Archipelago Malay gan archwilio’r jyngl ac ynysoedd anghysbell wrth i ni ddilyn yn ôl traed Wallace.

Mae’r ddrama’n cynnwys adrodd stori hudolus, sy’n cefnogi:


* Dysgu sut beth oedd bywyd anturiaethwyr Oes Fictoria
* Dadorchuddio cyfrinachau’r byd naturiol sydd o’n hamgylch
* Canfod sut allwch gefnogi natur drwy warchod yr amgylchedd, cynaliadwyaeth a gwarchodaeth.


Perffaith ar gyfer Cam Cynnydd 3


Er mwyn lleihau cost eich trip, gallech wneud cais am grant gan Gronfa Ewch i Weld, Cyngor Celfyddydau Cymru. 
Gall ysgolion wneud cais am hyd at £1,000 er mwyn talu am hyd at 90% o gostau’r profiad. Mae hyn yn cynnwys eich tocyn a chostau cludiant.

Er mwyn canfod mwy o wybodaeth a gwneud cais cliciwch yma

 

Archebwch ar gyfer Blaenwelediad Athrawon yma
 

Logo Heliwr Pili Pala

Adnoddau Athrawon

Pecynnau

Abertawe

Ysgolion Cynradd:

Ar gael o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener, 8fed - 23ain o Dachwedd (Yn Gymraeg)

Diwrnod cyfan o weithgareddau.

  • Perfformiad o’r ddrama, ‘Heliwr Pili Pala’ yn Theatr Dylan Thomas (10yb neu 1yp)
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast
  • Gweithdy am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yn Amgueddfa Abertawe
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe

Ysgolion Cyfun: (Yn ddelfrydol ar gyfer Drama a Bioleg)

Ar gael ar Ddyddiau Llun neu diwrnodau eraill ar gais

  • Perfformiad o’r ddrama yn Theatr Dylan Thomas (1 awr)
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast (20 munud)
  • Amser i edrych o amgylch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe.

Aberhonddu

Ar gael o Ddydd Mawrth yr 28ain i Ddydd Iau y 30ain o Dachwedd

Diwrnod cyfan o weithgareddau:

  • Perfformiad o’r ddrama, ‘Heliwr Pili Pala’ yn Theatr Brycheiniog (10yb neu 1yp)
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast
  • Gweithdai am ddim yn y Gaer
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe

Faint mae’n ei gostio?

Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.

Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng y pris i chi, gan ei ostwng i
£9+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.

Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.

Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:

1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 60 diwrnod wedi’ch ymweliad.

Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.

Cast
Elwyn Williams
Alfred Russel Wallace
Jemima Nicholas
Mary Wallace & eraill
Richard Nichols
Thomas Wallace & eraill
Cynhyrchiad
Geinor Styles
Awdur
Llinos Daniel
Cyfarwyddwr
Peter Knight
Cyfansoddwr
Kitty Callister
Cynllunydd
Ian Barnard
Cynllunydd Sain
Andy Pike
Cynllunydd Goleuo/Fidio
Alison Palmer
Rheolwr Cynhyrchu
Carys-Haf Williams
Rheolwr Llwyfan
Felicity Bulbulia
Rheolwr Llwyfan
Cêt Haf
Cyfarwyddwr Symud
Cefnogwyr