Dechreuodd Mike weithio yn y Theatr ym 1987, gan arbenigo mewn Sain o 1994 ymlaen.
Treuliodd yr amser rhwng 1994 a 2010 yn teithio o amgylch llawer o'r byd fel prif beiriannydd Sain a Pheiriannydd Cynhyrchu gydag amrywiaeth o gwmnïau theatr ac ar ddigwyddiadau corfforaethol ar raddfa fawr.
Ers hynny, mae Mike wedi parhau â'i yrfa fel Dylunydd Sain Llawrydd.
Ar ôl cynllunio mwy nag 20 o sioeau ar gyfer National Theatre Wales, mae gwaith safle-benodol wedi dod yn brif ddiddordeb iddo.

Mae ei waith Dylunio Sain yn cynnwys,
On Bear Ridge (The Royal Court / NTW) A Monster Calls (The Old Vic) La Strada (Kenny Wax) Eye of the Storm, A Story of Tom Jones-The Musical (Theatr na nÓg), Candy Lion, Illiad, Coriolan/us, The Radicalisation of Bradley Manning  (National Theatre Wales), Jane Eyre, Peter Pan, (Bristol Old Vic), Frankenstein (Living Spit) Sweeny Todd, (WNO), Romeo and Juliet (The Rose Theatre), Legal Fictions, The Importance of Being Earnest (The Theatre Royal Bath).

Mae ei ddyluniadau safle-benodol yn cynnwys Coventry Moves, (Coventry City of Culture) Oliver Jeffers The Wonder of Stories (Harrods/Proud Robinson)
City of the Unexpected, Tide Whisperer, The Passion, (NTW), Nawr yr Arwr (Taliesin Arts) IT Chapter 2 immersive project, Tomb Raider live, (Premier EAC), 100 The Day Our World Changed (Wild Works)

Gwobrau
Enwebwyd am Wobr Olivier am y Dyluniad Sain Gorau 2019 - A Monster Calls The Old Vic.
Gwobr Beirniaid Theatr Cymru am y Gerddoriaeth a'r Sain Orau 2012 - Coriolan / us ar gyfer National Theatre of Wales.