Pob blwyddyn, mae yna dysgu hudolus yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth ar draws De Cymru. Mae athrawon a disgyblion uchelgeisiol yn creu prosiectau ysbrydoledig yn seiliedig ar themâu cynyrchiadau Theatr na nÓg. 

Er cof am cyn Athrawes Ymgynghorol Celf a Drama y Sir a chyn-gadeirydd bwrdd Theatr na nÓg, Carolyn Davies, hoffen ni cydnabod yr holl ymdrechion creadigol yma a’u dathlu am y tro cyntaf gyda chystadleuaeth a seremoni wobrwyo. Gwahoddir yr holl athrawon a’r disgyblion sy’n rhan o’r prosiectau ar y rhestr fer i fynychu gyda’u teuluoedd ac mae cyfle i ennill gwobrau gwych wedi cyfrannu gan ein cefnogwyr caredig.

Llongyfarchiadau i'r ysgolion fuddugol o'r gwobr fawreddog:

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2019 - Ysgol Gynradd Creunant

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2020 - Ysgol Gynradd Cwmafan

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2023 - Ysgol Gynradd Blaenymaes

Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2024 - Ysgol Gynradd Gymunedol St Thomas

Mae Gwobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies AR GAU. Dylai’r rhai sy’n dymuno gwneud cais am Wobr Dysgu Creadigol Carolyn Davies 2025 archebu lle cyn gweld The Fight in Autumn.

Roedd y seremoni gwobrwyo eleni ar ddydd Mercher yr 28ain o Chwefror 2024.

I gofrestru, defnyddiwch y ffurflen islaw i gyflwyno disgrifiad 500 gair a/neu fideo fer am eich prosiect dosbarth neu/a’r gweithgareddau sydd wedi ysbrydoli eich ymweliad.

Bydd hoff brosiect y beirniaid yn ennill:

- Tlws i arddangos yn eich ysgol

- Gwobr ariannol a roddwyd gan ein noddwyr Carr, Jenkins & Hood Accountants

- Gweithdy am ddim gyda Technocamps

Yn sgil y pandemig, roedd rhaid i ni ganslo'r seremoni gwobrwyo ar gyfer y gystadleuaeth yn 2019. I ddathlu campau'r ysgolion ar y rhestr fer, cafodd seremoni gwobrwyo ar-lein ei greu gyda chast Heliwr Pili Pala. Gallwch chi wylio'r seremoni gwobrwyo a gweld gwaith ardderchog yr ysgol fuddugol, Ysgol Gynradd Cwmafan, islaw.

Apply