Mae Sebastian yn dod o Cheltenham yn Swydd Gaerloyw. Graddiodd gyda gradd mewn Actio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yng Nghaerfyrddin, lle dechreuodd ddysgu Cymraeg. Oddi yma, aeth ymlaen i weithio yn y theatr mewn gwahanol rolau ar lwyfan a blaen tŷ mewn lleoliadau gan gynnwys Theatr y Parc a’r National Theatre yn Llundain. Dychwelodd i Gymru i astudio ar gyfer ei Radd Meistr mewn Rheolaeth yn y Celfyddydau yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn dilyn ei leoliad gyda’r Coleg ar Operation Julie, roedd Sebastian yn hapus iawn i ymuno â Theatr na nÓg yn llawn amser, ac i allu defnyddio ei Gymraeg bob dydd.