Astudiodd Kitty Callister Dylunio Ffasiwn a Thecstiliau ym Mhrifysgol Brighton. Ar ôl treulio chwe mlynedd yn gweithio yn adran teilwriaeth dynion yn Nhŷ Opera Glyndebourne aeth ymlaen i astudio MA mewn Cynllunio ar gyfer Theatr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Swyddi blaenorol yn cynnwys:

Cynllunio Set a Gwisgoedd ar gyfer Prawf Elgan Jones (Theatr na nÓg) Lucio Papirio Dittatore (Buxton Opera Festival) Sounds and Sorcery  (The Vaults Theatre) Vixen – Hong Kong/London/ Helsinki/ Trento / Beijing (Silent Opera) Mozart vs Machine  & The Rattler (Mahogany Opera Group) Macbeth (Glyndebourne), The Bear and A Dinner Engagement (Royal Academy of Music), In The Penal Colony (Shadwell Opera), Church Parables (Mahogany Opera), a The Yellow Sofa (Glyndebourne On Tour).

Swyddi dylunio gwisgoedd yn cynnwys Wakening Shadows (Glyndebourne) a A Time There Was (Jubilee Opera).

Swyddi teledu diweddar - Dyer and Breakdown Artist ar Willow (Disney TV / Lucasfilms - Series 1)