Mae Theatr na nÓg sydd wedi ei leoli yng Nghastell Nedd wedi lansio Goslef er mwyn cynorthwyo plant a’u rhieni â’u sgiliau yn yr iaith Gymraeg. Ystyr Goslef yw tôn dyner ac mae’n gyfres o straeon yn yr iaith Gymraeg ar gyfer plant ifanc er mwyn eu trochi yng ngeiriau a synau’r iaith.

Yn sgil y pandemig ac addysgu yn y cartref, mae rhai rhieni a phlant wedi cael trafferth dygymod â dysgu’r iaith. Wedi i Theatr na nÓg glywed am yr heriau hyn, penderfynodd y cwmni gysylltu ag ysgolion Cymraeg a cheisio eu cynorthwyo. Yn dilyn ymchwil a chydweithio ag athrawon ac ymarferwyr proffesiynol yn y theatr, cafodd Goslef ei greu ac mae’n adnodd ar-lein o straeon gwreiddiol yn y Gymraeg a ysgrifennwyd ac sy’n cael eu darllen gan gydweithwyr creadigol Theatr na nÓg.

Yn ei hanfod, adrodd stori yw’r theatr. Mae angen straeon ar bob un ohonom.
Fel rhywun gafodd ei magu mewn cartref Saesneg ac a fynychodd Ysgol Gymraeg, rydw i’n gwybod pa mor bwysig yw hi i rieni gynorthwyo eu plant â’u dysgu. Mae dysgu o’r cartref wedi bod yn heriol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Wedi i ni glywed fod rhieni ac athrawon yn poeni am faint o’r Gymraeg roedd eu disgyblion yn ei chlywed, cawsom ein sbarduno i ddod o hyd i ateb creadigol.
Geinor Styles, Cyfarwyddwr Artistig Theatr na nÓg

Yn ôl Lynne Jones, Pennaeth Ysgol Santes Tudful ym Merthyr Tudful ac aelod o Grŵp Artistig Ymgynghorol y Cwmni: 

Mae Goslef yn berffaith ac yn adnodd sydd nid yn unig yn cynorthwyo rhieni ac athrawon i gael seibiant wrth i blant wrando ar y stori ond mae hefyd yn caniatáu i’r plentyn gamu oddi wrth y sgrin am unwaith a chael mynediad i fyd sydd yn sbardun i’w dychymyg.

Yr hyn sy’n unigryw am Goslef yw nid yn unig y ffaith fod y straeon yn rhai gwreiddiol yn y Gymraeg ond hefyd fod y straeon eu hunain yn ffres a newydd ac mae plant yn haeddu straeon cyffrous. Gan na all ein plant wylio Theatr fyw, gallant eistedd ar eu pennau eu hunain neu mewn grŵp a gadael i lais yr actor eu tywys ar antur yn yr iaith Gymraeg. Nid os neb, yng Nghymru gyfan, yn gwneud hyn yn well na Theatr na nÓg.
Lynne Jones, Prifathrawes Ysgol Santes Tudful

I orffen, ychwanegodd Geinor Styles "Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru am ei ymroddiad i’r iaith Gymareg sydd yn ein galluogi i fod yn greadigol ac yn adweithiol i’r galw penodol hwn. Unwaith eto, mae’r pandemig wedi caniatau i ni gynorthwyo’n cynulleidfaoedd a’n rhwydwaith o artistiaid er mwyn cynhyrchu gwaith dyfeisgar yn yr iaith Gymraeg.”

Ar hyn o bryd, mae gan Goslef bum stori ar ei blatfform sydd yn cynnwys Alis Wen a Gwynt yr Hebog gan yr actores Mali Tudno Jones, Amser i fod yn Llonydd gan Llinos Daniel, Bleddyn y Blaidd gan Tom Blumberg ac mae Ioan Hefin yn darllen Nel y Sbel gan Gwyn Thomas yn dilyn derbyn caniatâd caredig gan Jennifer Thomas a Gwasg Gomer. 

Grandewch yma