Mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a Technocamps.

Mae Lina yn breuddwydio am ganu yn La Scala.

Yna, yn ystod haf 1940, mae'r Eidal yn mynd i mewn i'r rhyfel ac yn sydyn mae teuluoedd Eidalaidd sy'n byw yng Nghymru yn cael eu rhwygo arwahan, wrth i ddynion cael eu cymryd o'u teuluoedd a'u brandio'n estroniaid ac eu trîn fel y gelyn.

Mae Lina yn gwylio mewn arswyd wrth i'w thad gael ei lusgo o'u caffi bach yn Abertawe a'i garcharu.  Wedi'u gorfodi allan o'u cartref, gan bobl yr oeddent yn eu hadnabod fel ffrindiau, mae Lina a'i mam yn wynebu dyfodol ansicr ac unig.

Ar yr 2il o Orffennaf 1940, cafodd yr Arandora Star ei gamgymryd am long filwrol a'i dorpido gan 'Uboat' o’r Almaen oddi ar arfordir Iwerddon, a’i suddo gyda 446 o fywydau dynion o’r Eidal wedi eu colli.

Nid oes unrhyw newyddion am dad Lina, p'un a oroesodd neu foddi.

Yn ei chartref newydd, ymhell i ffwrdd o Abertawe, mae Lina yn glynu i'r freuddwyd bydd ei theulu nôl gyda'u gilydd un diwrnod.

Mae ein drama, Yr Arandora Star, yn adrodd stori emosiynol Lina wrth iddi frwydro i ymdopi â cholli ei thad, Guido, a sut mae hi a’i mam, Carmela yn goroesi mewn cyfnod o ryfel a rhagfarn.

Mae Yr Arandora Star yn stori wir a bydd yn archwilio bywyd mewnfudwyr sy'n byw ac yn gweithio yn y DU yn ystod cyfnod o ryfel ac yn dilyn cwest Lina am ei thad a'r gwir.

Mae’r ddrama hon yn amlygu materion mewnfudo ac integreiddio. 


Perffaith ar gyfer Blwyddyn 5 i fyny.

Y cast yn recordio yn y studio gyda meicroffon yr un

Am y tro cyntaf mewn 30 mlynedd ni fyddwn yn cynhyrchu ein prosiect theatr llwyddiannus yn fyw, ond yn hytrach ar y radio. Mi fydd Yr Arandora Star yn cael ei ffrydio'n uniongyrchol i ystafelloedd dosbarth ysgolion Cymru.

Yn 2020 roedd hi'n 80 mlynedd ers i'r Arandora Star suddo. Mae'r ddrama trawiadol hon yn adrodd hanes teulu Eidalaidd o Gymru sy'n cael eu rhwygo arwahan gan y ragfarn yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae perfformiadau Cymraeg a Saesneg o'r Arandora Star ar gael nawr. 

Ar gael yn Gymraeg a Saesneg, daw’r ddrama â llwyth o gynlluniau gwersi ac adnoddau sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd, perffaith ar gyfer blwyddyn 5 i fyny i greu prosiect tymor cyfan am ddigwyddiad sydd yn rhan bwysig o hanes Cymru.

Mae hefyd gweithdai rhithwir gyda'n partneriaid y prosiect, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Wedi’u creu gan athrawon, mae’r cynlluniau gwersi a’r adnoddau traws-gwricwlwm yn canolbwyntio ar lythrennedd a rhifedd yn ogystal â themâu’r sioe; Dinasyddiaeth fyd-eang, WW11, mewnfudo ac iaith.

Perfformiwyd fersiwn llwyfan Yr Arandora Star yn fyw yn Theatr Dylan Thomas, Abertawe yn wanwyn 2022.

Darperir y cynnwys yma yn rhad ac am ddim. Mae Theatr na nÓg yn elusen gofrestredig a chroesewir rhoddion er mwyn sicrhau y gallwn barhau i greu cynnwys a chynyrchiadau i bob oed eu mwynhau.

Mae ffyrdd o gyfrannu a thelerau ac amodau llawn i'w gweld yma CEFNOGWCH NI

Cast
Kieran Bailey
PC Evans / Mr Thomas
Mark Henry Davies
Guido
Lara Lewis
Lina
Elin Pavli-Hinde
Carmela / Mrs O'Callaghan
Cynhyrchiad
Mali Tudno Jones
Awdur
Geinor Styles
Awdur
Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr
Ian Barnard
Cynllunydd Sain
Elanor Higgins
Cynllunydd Goleuo
Erin Maddocks
Cynllunydd
Rhianna Morgan
Rheolwr Llwyfan
Jessica Pomeroy
Rheolwr Llwyfan
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr
Emma Stevens Johnson
Hyfforddwr Llais
Cefnogwyr