Allgymorth
Os ydych am gymryd rhan yn ein gweithgareddau dyma'r man cywir i chi.
Yn ogystal â chynhyrchu'r theatr broffesiynol o'r ansawdd uchaf i bobl ifanc, mae Theatr na n'Óg yn cynnig rhaglen allgymorth gynhwysfawr i ysgolion ac unigolion sy'n dymuno cymryd rhan ar raddfa ehangach.
Ymunodd Samantha Timmins â'r cwmni yn 2006 fel ein swyddog Allgymorth. Mae'r datblygiad cyffrous hwn wedi galluogi'r cwmni i greu gweithdai theatr a sesiynau drama at y diben i ysgolion a mudiadau cymunedol. Bydd rhai gweithdai yn gysylltiedig â chynyrchiadau theatr penodol, bydd eraill yn brosiectau drama annibynnol fydd yn cyflwyno'r cwmni a'i waith i gynulleidfaoedd newydd posib.
Os hoffech wybod mwy am ba weithdai a sesiynau drama y gall Theatr na n'Óg eu cynnig cysylltwch â sam@theatr-nanog.co.uk.









