Chwedlau Aesop
YDYCH CHI WEDI ARCHEBU EICH GWEITHDY DRAMA?
Mae dweud straeon yn ganolog i'r gweithdy drama eleni gyda rhyfeddodau Chwedlau Aesop. Bydd yr ystafell yn dod yn fyw gyda chymeriadau a phosibiliadau ddiddiwedd wrth i'r disgyblion fynd mewn i fyd y dychymyg a meddwl yn greadigol yn y gweithdy rhyngweithiol ac addysgol hwn.
Yn ystod y gweithdy drama bydd disgyblion yn datblygu’r sgiliau canlynol:
• Cyfathrebu • Sgiliau meddwl
• Datblygiad creadigol • Trafod
• Cwestiynu • Gwrando ar a chyflawni cyfarwyddiadau
• Datrys problemau • Llefaredd
• Datblygiad personol • Gweithio gydag eraill
• Gwrando ar eraill • Gwaith grwp
• Rheoli symudiadau’r corff • Datblygiad cymdeithasol
• Ffurfio perthnasau a teimlo’n hyderus i chwarae a gweithio ar y cyd.
• Gweithio ar ben ei hunain, gyda phartner, byrfyfyrio a meddwl yn ddychmygol.
Manylion y gweithdy:
- Cost y gweithdy yw £60.00 + TAW
- Pob sesiwn yn para 1 awr
- Uchafswm o 30 disgybl ymhob sesiwn
Os hoffech dderbyn fwy o wybodaeth neu os hoffech archebu gweithdy drama, cysylltwch â Samantha Timmins, Cydlynydd Allgymorth Drama Theatr na n'Óg ar 01639 641771 ebost sam@theatr-nanog.co.uk










Follow us on: