Arandora Star

Yn seiliedig ar deulu eidalaidd yn byw yn Ne Cymru yn ystod yr ail rhyfel byd. Pwy yw'r gelyn, ni neu nhw?

Arandora Star (7 + i fyny) Theatr Dylan Thomas, Swansea.  Tachwedd 2011

Ar y 1af o Orffennaf 1940, camgymerwyd Yr Arandora Star am long ryfel, a saethwyd hi â thorpido gan long danfor Almaenig oddi ar arfordir Iwerddon, lle y suddodd gyda bywydau 446 o ddynion Eidalaidd yn cael eu colli.

Mae'r ddrama newydd hon yn seiliedig ar stori wir, ac yn edrych ar fywyd mewnfudwyr oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ar adeg y rhyfel wrth ddilyn stori Lina a'i theulu.

Arandora Star (7 + i fyny) Theatr Dylan Thomas, Swansea.  Tachwedd 2011


 

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News