Salsa
Salsa - Eisteddfod Wrecsam Awst 2011. Ar Daith Hydref - Tachwedd 2011
(14 + i fyny)
Gyda’i ben yn y ser, mae bywyd Wayne Needy braidd yn ddifflas. Er mwyn rhoi taw ar swnian ei wraig Rhian, mae’n dechrau gwersi dawns. Wedi’r cyfan, bydd yn gyfle iddo golli pwysau hefyd.
Mae Wayne a’i ddwy droed chwith yn camu’n betrusgar i fyd y Tango a’r Salsa, wrth feddwl y byddai’n well ganddo fod ar blaned arall – hynny yw tan iddo gyfarfod â’r brydferth Adela Vega, ei hyfforddwraig dawns.
Wrth i’r neuadd gymunedol llwm drawsnewid, mae Wayne yn ymgolli yn rhythmau egsotig ei fyd newydd. Ac wrth i’w gariad at ddawns dyfu, mae’n dechrau cwestiynu ei wir deimladau tuag at Rhian. Mae’n rhaid iddo wneud penderfyniad; ond ai calon ynteu traed Wayne fydd yn penderfynu?










Follow us on: