Y Bachgen y Cyw a'r Wy Aur
O… tlawd neu gyfoethog, doed a ddêl, Gyda'r aur, bydd y dyfodol yn fêl
Stori am antur ym myd hynod a hudolus y straeon tylwyth teg. Dilynwch Jack ar ei daith i ddarganfod mwy.
Mae'n cwrdd â Humpty Dumpty rhwystredig, wedi'i adael mewn darnau gan ddynion da i ddim y brenin. Byddwch yno pan fydd yn cwrdd â'r Goldilocks hengall yn bwyta'i huwd, a gweld nad yw'n ferch ddymunol iawn wedi'r cyfan, byddwch yno pan gaiff wybod y gwir am y Tair Arth, a byddwch yn ofalus iawn o'r dyn bach rhyfedd brawychus.
Mae “Y Bachgen y Cyw a'r Wy Aur” yn gynhyrchiad lliwgar i blant o bob oed gyda cherddoriaeth wedi'i chwarae'n fyw gan yr actorion, a phypedau y byddwch am fynd â nhw adref gyda chi.










Follow us on: