Chwedlau Aesop

Daw Llygoden, Llew a Chrwban at eu gilydd i adrodd un o’r straeon moesol mwyaf enwog ond mewn ffordd unigryw eu hun.

Mae’r Llygoden yn adrodd y stori er mwyn osgoi cael ei bwyta gan y Llew. Mae’r Llew yn adrodd y stori achos ei fod am fwyta’r Llygoden ac mae’r Crwban yn adrodd y stori achos…wel…achos ei fod e am fyta’i frechdan letys.
Arweinir ni drwy dorreth o chwedlau gan y Storiwyr anifeilaidd, heibio cwn cysglyd, sgwarnogod sgrialog, cadnoid clodforus a hyd yn oed cwpl o fodau dynol dwl.
Mor berthansol nawr ag oeddynt erioed, cyflwynir y chwedlonnau yma gydag egni byrlymus a fydd yn sicr o ddiddanu.

Sioe sy’n ffyddlon i ysbryd Aesop, mi fydd cynhyrchiad Theatr na n’og yn peri i chi chwerthin yn uchel a phwy a wŷr, efallai wnewch chi ddysgu rhywbeth hefyd!

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News