Cyrano
A ydych erioed wedi syrthio mewn cariad â'r person mwyaf hynod a phrydferth yn y byd, ond wedi methu â gwneud dim byd amdano? Mae Cyrano yn stori drawiadol am gariad unochrog. Mae gan ein harwr bopeth - dewrder llew, calon bardd a thrwyn - wel - bwytawr morgrug.
Mewn cariad dros ei ben a'i glustiau gyda'r ferch brydferth o Baris, Roxanne, mae Cyrano, sy'n llawn personoliaeth ond yn anffodus â thrwyn anferth yn torri'i fol am ddatgan ei gariad tuag ati, ond yna gwêl ei gysgod. Gan gredu y bydd hi'n gwrthod ei gariad oherwydd ei olwg, mae'n rhaid i Cyrano fyw ei obeithion drwy ddyn arall, y golygus ond tafotrwym Christian. Efallai bod gan Christian yr wyneb del i droi pen Roxanne, ond nid yw gyda'r mwyaf clyfar, felly mae'n gofyn am gymorth Cyrano - dim ond ei eiriau ef all gipio ei chalon.
Roedd drama Edmond Rostond Cyrano De Bergerac yn ddrama drawiadol pan y'i perfformiwyd hi gyntaf ar lwyfan Ffrainc ym 1897. Dros ganrif yn ddiweddarach, mae Theatr Na Nog, yn y fersiwn hon a gomisiynwyd yn arbennig gan Keiron Self, yn mynd â chi yn ôl i gyfnod o anrhydedd a chwrteisi, ond hefyd, yn fwy cyffredinol, amser lle roedd gwahaniaeth a swildod yn elynion mwy pwerus i hapusrwydd na byddin ymosodol.
Comedi hynod ddoniol a stori garu drasig, antur hwyliog a darlun hyfryd o gariad, mae Cyrano Theatr Na Nog yn driw i'r stori wreiddiol tra'n ychwanegu ei gymeriad ei hun i'r ddrama enwog, ac yn ei hadrodd â steil!
Cipiwch y lleuad a syrthio mewn cariad â Cyrano. Ond peidiwch â sôn am y trwyn.....!










Follow us on: