Adolygwyd gan: Fiona Phillips. Gwefan Theatr in Wales

Bob nawr ac yn y man bydd ffilm, paentiad neu gân yn eich llorio’n llwyr gyda’i rhagoriaeth.

Mae cynhyrchiad newydd trawiadol o Cyrano gan ddau gwmni lled anadnabyddus Cymreig yn cynnig enghraifft theatrig o hynny.

Cyflwynwyd y stori glasurol hon mewn sawl fformat, ond nid oes yr un yn fwy disglair na’r pleser syml a gynigir gan fersiwn Kieron Self o’r ddrama.

Efallai oherwydd ei fod yn actor medrus, ac yn gyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl fel Roger y Deintydd yn My Family, gall dynnu pob darn o hiwmor allan o’r gwaith, ond nid comedi yw hwn yn unig. Er bod y darnau hwyliog yn ddoniol dros ben, mae’r trasiedi yn dorcalonnus.

Roedd Self, hefyd, yn gallu cynnwys themâu modern sy’n fwy perthnasol fyth i gynulleidfaoedd heddiw, gyda ninnau’n treulio cymaint o’n hamser yn meddwl am ymddangosiad.

Mae hefyd yn dangos y stori glasurol o gariad unochrog o safbwynt y Roxanne brydferth, sef rhywbeth nad yw’n cael ei gynnwys yn y fersiwn wreiddiol. Mae Cyrano yn gymeriad uwchnaturiol bron, sy’n boblogaidd gyda dynion am ei hiwmor a’i ddewrder a gyda menywod am ei ddeallusrwydd a’i ramant, ond nid man gwan go iawn Cyrano yw ei olwg, ond yn hytrach ei dybiaeth fod Roxanne yn rhy arwynebol i garu ef fel ag y mae, a dyma sy’n ei ddinistrio yn y pen draw.

Ond bydd yr ysgrifennu gorau yn methu os nad yw’r actorion yn barod ar gyfer yr her - ond yn ffodus i’r gynulleidfa fach werthfawrogol roedd pob actor yn deilwng o’r sgript. Roedd pob un yn wych, ond Cyrano Rob Lane oedd y grym y tu ôl i’r cynhyrchiad, a gadawyd oedolion sinigaidd mewn dagrau wedi cwymp tyner y cymeriad.

Yr un mor drawiadol oedd Roxanne Eleanor Howell tra roedd Phylip Harries bron yn rhy ddoniol.

Y fersiwn orau o glasur eleni? Cyrano sydd ar y blaen o hyd trwyn!

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News