Y ddrama gyffrous ddiweddaraf i flynyddoedd 5&6, yn seiliedig ar y ddihangfa fwyaf gan garcharorion rhyfel yn yr yr Ail Ryfel Byd.

 

Ar noson 10fed - 11eg Mawrth 1945, dihangodd 67 o Garcharorion Rhyfel Almaenig drwy dwnnel o Wersyll 198 ym Mhen-y-Bont. Hon oedd yr ymgais fwyaf i ddianc gan Garcharorion Rhyfel Almaenig ym Mhrydain Fawr yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Mae’r gymuned gyfan yn cymryd rhan wrth chwilio am y carcharorion yn cynnwys y pedwar o blant, y maent gyda’u harfau o ffyn, catapyltiau a nodwyddau gweu yn mynd ati i gipio’r Almaenwyr! Ond nid yw eu cyffro’n para’n hir fodd bynnag, oherwydd maent yn darganfod cyfrinach llawer mwy pwysig!

 

Bob hydref mae Theatr na n'Óg yn cynhyrchu, mewn cydweithrediad ag Amgueddfa Abertawe ddigwyddiad unigryw sy'n cyfuno'r gorau mewn theatr Gymreig i bobl ifanc a'r adnodd addysgol eithriadol sydd ar gael yn Ne Orllewin Cymru.  

 

 

Mae Theatr na n'Óg yn credu y dylai theatr i bobl ifanc gael yr un safonau uchel â theatr i oeodlion, ac rydym yn ymrwymedig i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc i ddysgu a chwarae drwy'r celfyddydau.

“Mae'r perfformiadau mor gyson, mae'r deunydd yn berffaith ar gyfer ei gynulleidfa, a'r cyflymder a'r straeon yn hynod ddifyr i blant a'u hathrawon. Rhagorol!" Ysgol Gynradd Hendrefoilan, Abertawe.

I gael gwybod mwy am ein Gwaith Addysg ewch i'r tudalen ar Addysg.

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News