Heliwr Y Pili Pala
Antur Fictorianaidd i ysbrydoli anturwyr ifanc
Wedi ei seilio yn ystod Oes Aur Fictoria, mi fydd Theatr na n’Óg yn olrhain hanes Alfred Russel Wallace, brodor o Gastell Nedd a chyfoeswr i Charles Darwin.
Pan fyddai Charles Darwin yn pendroni ynglyn â pham yr oedd rhywogaethau fel ag yr oeddynt, y cyngor y fuasai’n cael bob tro oedd, ‘Mi ddylet ti ofyn wrth
Wallace’.
Ym 1841, fe gyrrhaeddodd Alfred Russel Wallace Cwm Nedd i arolygu’r tir yn barod am y rheilffyrdd. Yma ddechreuodd ei gariad at blanhigion a phryfed. Pan
ddarganfyddodd chwilen prin, fe ddechreuodd ofyn y cwestiwn : sut a pham bod gymaint o rywogaethau gwahanol yn bodoli? Blynyddoedd yn hwyrach byddai
Wallace yn darganfod ateb a fyddai’n ysbarduno Darwin i gynhyrchu ei waith arloesol “On the Origin of Species”. Wedi ei seilio yn Nghastell Nedd, mae’r ddrama yn ein tywys ni i bedwar ban byd i Frasil a Malaya i groniclo bywyd unigryw y gwyddonydd arbennig hwn. Mi fydd y ddrama yn archwilio i themâu cynadlwyaeth, cadwraeth ac i arloeswyr ac anturwyr oes Fictoria.










Follow us on: