Sioe un dyn unigryw, rhyngweithiol am y dyn ysbrydoledig, Alfred Russel Wallace, cyd-ddarganfyddwr Dethol Naturiol.

Wedi'i berfformio gan Ioan Hefin a'i ysgrifennu a'i gyfarwyddo gan Geinor Styles, mae'r perfformiad hwn yn canolbwyntio ar yr agweddau ar gymeriad ysbrydoledig Alfred Russel Wallacea'i arweiniodd at feddwl am y syniad o esblygiad drwy ddethol naturiol. Pan roedd Darwin yn methu'n lân â chanfod yr ateb i pam roedd rhai rhywogaethau yn bodoli yn eu ffurf penodol, y cyngor a roddwyd iddo oedd - “Dylech ofyn i Wallace”.

Teithiodd Wallace o gwmpas Archipelago Malay am wyth mlynedd, yn chwilio am fecanwaith esblygiad a rhywogaethau newydd o anifeiliaid i'w hanfon yn ôl i Loegr. Yn ystod y daith hon fe wnaeth ei gyfraniad pwysicaf i wyddoniaeth. Ym mis Chwefror 1858, mewn gwendid wrth ddioddef o dwymyn, cafodd fflach o ysbrydoliaeth a darganfod dethol naturiol, y broses y credir sy'n gyrru mwyafrif y newid bywyd esblygol ar y Ddaear. Pan roedd wedi gwella ysgrifennodd draethawd yn egluro ei syniadau a'i anfon at Charles Darwin am ei sylwadau.

Cyflwynwyd erthygl Wallace ynghyd â rhai o ysgrifau Darwin nas cyhoeddwyd ar y pwnc mewn cyfarfod Cymdeithas Linnean Llundain ar 1af Gorffennaf 1858. Y darganfyddiad hwn, a sbardunodd Darwin i gynhyrchu ei waith arloesol “On The Origin of Species” , sy'n golygu bod Wallace yn aml yn cael ei gydnabod fel cyd-ddarganfyddwr y cyflawniad hwn mewn gwyddoniaeth. Mae “Dylech ofyn i Wallace” yn berfformiad rhyngweithiol sy'n rhoi cipolwg i ni ar y gwyddonydd a'r sylwebydd cymdeithasol Fictoraidd amlwg hwn.

Bydd y perfformiad yn cael ei gynnal yn Ysgol Gartholwg a Gwyl Agor Drysau - Aberystwyth

“Mae gwaith Wallace wedi fy ysbrydoli'n fawr. Addysgodd ei hun, ac roedd yn chwilfrydig am y byd o'i gwmpas ac yn cael ei synnu ganddo ar hyd ei oes, ac nid oedd ofn arno ofyn cwestiynau anodd oedd yn herio'r sefydliad. Dangosodd ysbryd dynol cryf drwy gwestiynu'r status quo er mwyn cael cymdeithas fwy cyfiawn. Rwy'n credu y gallem oll ddysgu o'i esiampl ef.“
Geinor Styles, 
Awdur a Chyfarwyddwr.

 

Dewis iaith

Gwybodaeth safle

cynllun gan ViewCreative

Tanysgrifio am newyddion o gynhyrchiadau newydd.

eich manylion

Recent News