Gan Mali Tudno Jones & Geinor Styles

Pan ymunodd yr Eidal a’r rhyfel yn ystod haf 1940, cafodd Eidalwyr a oedd yn byw yng Nghymru a gweddill y DU eu brandio fel y gelyn.

Ar y 1af o Orffennaf 1940, cafodd yr Arandora Star ei gamgymryd am long filwrol a’i dorpido gan ‘Uboat’ o’r Almaen oddi ar arfordir Iwerddon, a’i suddo gyda 446 o fywydau dynion o’r Eidal wedi eu colli.

Mae ein drama, Yr Arandora Star, yn adrodd stori emosiynol Lina wrth iddi frwydro i ymdopi â cholli ei thad, Guido, a sut mae hi a’i mam, Carmella yn goroesi mewn cyfnod o ryfel a rhagfarn.

Mae’r Arandora Star yn stori wir a bydd yn archwilio bywyd mewnfudwyr sy’n byw ac yn gweithio yn y DU yn ystod cyfnod o ryfel ac yn dilyn cwest Lina am ei thad a’r gwir.
Mae’r ddrama hon yn amlygu materion mewnfudo ac integreiddio.

Perffaith ar gyfer Blwyddyn 5 i fyny

Mae ein pecynnau i ysgolion wedi’u cynllunio’n benodol i gwmpasu pob maes o’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd

Y themâu craidd yw

• Dinasyddiaeth fyd-eang
• Rhyfel yn y 20fed ganrif a’r Ail Ryfel Byd
• Elfennau o drawsieithu Cymraeg, Saesneg ac Eidaleg

Pecynnau

YSGOLION GYNRADD

Ar gael o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener

Diwrnod cyfan o weithgareddau.

  • Perfformiad o’r ddrama, ‘Yr Arandora Star’ yn Theatr Dylan Thomas
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast
  • Ymweliad i weld arddangosfa’r Ail Ryfel Byd yn Amgueddfa Abertawe
  • Gweithdy am ddim yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe

Bydd pob ysgol gynradd yn cael ei chynnwys mewn cystadleuaeth i ennill gweithdy côdio gan Technocamps yn rhad ac am ddim.

Bydd y diwrnod yn dechrau’n brydlon am 9.45am ac yn gorffen am 2.30pm (mae gennym ddiwrnod llawn dop ar eich cyfer felly peidiwch â bod yn hwyr!).

YSGOLION CYFUN

Ar gael ar Ddyddiau Llun neu diwrnodau eraill ar gais

Cyfle delfrydol i’r rhai sy’n astudio
Hanes TGAU - Bywyd yn ystod Amser Rhyfel Drama TGAU - Dehongli Drama
Dewch i weld y sioe a’r sesiwn Cwestiwn ac Ateb am 10am neu 1pm neu dewch am ddiwrnod cyfan:

  • Perfformiad o’r ddrama, ‘Yr Arandora Star’ yn Theatr Dylan Thomas (1 awr)
  • Sesiwn Cwestiwn ac Ateb gyda’r Cast (20 munud)
  • Amser i edrych o amgylch Amgueddfa Genedlaethol y Glannau (dewisol)
  • Adnoddau ar-lein am ddim yn gysylltiedig â themâu’r sioe.
Archebu

Archebwch le ar gyfer eich ysgol

8-18 Chwefror 2022
Theatr Dylan Thomas, Abertawe
cymraeg
2 Mawrth – 8 Ebrill 2022
Theatr Dylan Thomas, Abertawe
saesneg
Rhagolwg

Eisiau rhagolwg?

Fel bod eich disgyblion yn cael y mwyaf o’u diwrnod, rydym yn argymell fod o leiaf un athro o’ch ysgol yn bresennol.
Mae hwn yn ddigwyddiad sy’n rhad ac am ddim ac mae argaeledd cyfyngedig felly sicrhewch eich bod yn archebu eich tocyn o flaen llaw.

Llun 7 Chwef
4:00PM
Theatr Dylan Thomas, Abertawe
cymraeg
Maw 1 Maw
4:00PM
Theatr Dylan Thomas, Abertawe
saesneg
Life boat ring with the words Arandora Star on

Faint mae’n ei gostio?

Rydym yn derbyn cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gan nifer o Ymddiriedolaethau a Sefydliadau tuag at gostau’r prosiect.

Byddwn yn defnyddio’r cyllid hwn er mwyn gostwng
y pris i chi, gan ei ostwng
£7.50+TAW ar gyfer pob disgybl / oedolyn yn ogystal ag un tocyn oedolyn am ddim gyda phob 10 disgybl.

Fel amod i’r cyllid hwn, mae angen i ni gasglu adborth gan bob cyfranogwr.

Er mwyn derbyn y pris gostyngol hwn, rydym yn gofyn am dri pheth:

1. Eich bod yn arwyddo’ch contract archebu a fydd
yn cael ei e-bostio atoch a’i ddychwelyd oddi fewn 7 diwrnod o’i dderbyn.
2. Eich bod yn cwblhau arolwg syml, ar-lein oddi fewn i 10 diwrnod o’ch ymweliad.
3. Eich bod yn talu’ch anfoneb oddi fewn 60 diwrnod wedi’ch ymweliad.

Byddwn yn anfon negeseuon atoch i’ch atgoffa, felly does ddim angen i chi boeni am anghofio gwneud hyn.

Cast
Kieran Bailey
Mr. Thomas
Mark Henry-Davies
Guido
Elan Meirion
Lina
Elin Pavli-Hinde
Carmela
Cynhyrchiad
Daniel Lloyd
Cyfarwyddwr
Geinor Styles
Awdur
Mali Tudno Jones
Awdur
Ian Barnard
Dylunydd Sain
Vikki Chandler
Rheolwr Llwyfan
Cait Gerry
Rheolwr Llwyfan
Luned Gwawr Evans
Dylunydd
Erin Maddocks
Dylunydd
Elanor Higgins
Dylunydd Goleuadau
Gwawr Loader
Cyfieithydd
Barnaby Southgate
Cyfansoddwr
Pamffled am Yr Arandora Star
Cefnogwyr