![]() |
![]() |
![]() Diolch yn fawr iawn oddi wrth Theatr na n'ÓgDydd Gwener, Awst 11eg 2006 Wel, lledwyd yr hwyliau, codwyd yr angor a golchwyd y deciau ym Mhasiant y Plant gyda Theatr na n'Óg, yn Eisteddfod Genedlaethol eleni, 2006. ’Roedd cyngerdd nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod am 8 yr hwyr ar Awst 5ed yn llwyddiant mawr gyda Halen yn y Gwaed gydag ail-berfformiad oedd yr un mor drawiadol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nos Fercher diwethaf. Hoffai Theatr na n'Óg estyn diolch mawr iawn i’r holl blant fu’n perfformio ynghyd â’u teuluoedd cefnogol. Dangosodd y plant ymrwymiad a brwdfrydedd pendant i’r cynhyrchiad hwn. Wrth i ymarferion Halen yn y Gwaed gael eu cynnal bob Sadwrn ers mis Mai gyda sesiynau ychwanegol dros wyliau’r haf, mae dros 100 o blant lleol, o 8 – 11 oed wedi bod yn canu, dawnsio, actio a dysgu llinellau am fisoedd. ’Roedd y diweddglo yn un ysblennydd a pherfformiadau’r plant o’r safon uchaf! “Am griw talentog; dangosodd y bobl ifanc yma broffesiynoldeb amlwg!” dywedodd un o’r gynulleidfa wrth ymadael dan ganu caneuon o’r sioe. Mae Pasiant y Plant yn brofiad unigryw, sydd wedi galluogi plant lleol i gymryd rhan mewn a dathlu eu treftadaeth ddiwylliannol o fewn un o lwyfannau mwyaf Ewrop o flaen cynulleidfa genedlaethol a rhyngwladol. Comisiynwyd Theatr na n’Óg, un o gwmnïau blaenllaw Theatr-mewn-Addysg, i gyfarwyddo a chynhyrchu Pasiant y Plant eleni. Mae Theatr na n'Óg, fydd yn dathlu ei phenblwydd yn 25 oed blwyddyn nesaf, wedi bod yn darparu gwasanaeth dwyieithog o safon uchel i ysgolion yn Abertawe, Castell-nedd, Port Talbot a Phen-y-bont, yn ogystal â theithio gyda sioeau teulu a phlant dros y Prydain. Gyda chymaint o blant a phobl ifanc talentog, bydd Theatr na n'Óg yn ymestyn ei gwaith tu hwnt i brosiectau ysgolion i’r gymuned leol, gan weithio ar y cyd gyda’r Urdd yng Ngorllewin Morgannwg. Ariennir y prosiect hwn gan Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo. Bydd y gwaith yn cychwyn ym mis Medi gyda lansiad Clybiau Drama a Theatr Ieuenctid ar lleolir yn Theatr na n'Óg yng Nghastell Nedd, a gweithdai Cymraeg yng Nghastell Nedd ac Abertawe mewn partneriaeth gyda’r Urdd. Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Victoria Goddard yn Theatr na n'Óg ar 01639 641771 DIWEDD
|