![]() |
![]() |
|
|
![]() Big Bad Wolf
Prosiect Theatr-Mewn-Addysg: Blwyddyn 1 a 2 Yn teithio rhwng Ebrill 22ain a Gorffennaf 16eg, 2004 Chi fwlis - cymerwch ofal ble bynnag yr ewch gan bod yr Hugan Goch Fach yma i achub y dydd! Gwewyd storïau adnabyddus yr Hugan Goch Fach, Y Tri Mochyn Bach a Y Blaidd a'r Saith Gafr â'i gilydd i greu'r sioe newydd, gyffrous hon gan Theatr na n'Og. Yr Hugan Goch Fach yw'r unig obaith sydd gan y Mochyn Bach a'r Gafr Fach i godi ofn ar y Blaidd Mawr Drwg. Mae'n bosib iddi helpu ei ffrindiau ond a yw'n bosib iddi helpu'r un sydd ei hangen mwyaf? - Y Blaidd mawr Drwg! Mae'r sioe gerddorol hon i blant ifainc (5-7 oed) yn cynnwys caneuon gwreiddiol a pherfformiad heb ei ail oddi wrth Theatr na n'Og. "Perfformiad arbennig ... gwisgoedd a set yn help i drosglwyddo'r stori. Roedd y plant wrth eu bodd. Dewch nôl yn fuan roedd y sioe yn un o'r goreuon eto!" - Ysgol Bryn y Môr ![]()
|