![]() |
![]() |
|
|
![]() Y Prosiect Deori – The Bankrupt BrideLansiodd Canolfan Mileniwm Cymru (CMC) Y Prosiect Deori ym mis Ebrill 2006 gyda’r bwriad o feithrin, datblygu ac annog talent ddangosol a gwaith newydd ar draws ystod o ffurfiau ar gelfyddyd yng Nghymru. Mae tri chwmni celfyddydol yng Nghymru, sy'n cynnwys Theatr na n'Og, Antic Corporation a Llwyfan Gogledd Cymru, wedi'u dewis i gymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y prosiect a gwnaed hyn yn bosibl gyda chymorth Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn. Dywed Cyfarwyddwr Rhaglennu a Marchnata'r Ganolfan, Fiona Allan, "Un o'n huchelgeisiau yw bod yn ffwrnais o ysbrydoliaeth - lle i ddatblygu gwaith Cymreig newydd a'i lwyfannu am y tro cyntaf. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth Elusennol Tregolwyn am alluogi'r Ganolfan i lansio'r Prosiect Deori ac yn falch y byddwn yn llwyfannu tri darn newydd o waith yr Hydref hwn, lai na dwy flynedd ar ôl i ni agor ein drysau.” Comedi gerddorol newydd a gyflwynir gan Theatr na n'Óg. Mae The Bankrupt Bride yn adrodd hanes Claire Simmons sy’n ddeg ar hugain oed, merch hynod ramantus ei natur sy’n berchen ar siop briodas. Mae ganddi ei busnes ei hun, ei chartref ei hun, ond dim gŵr i’w rhannu gydag ef. A bydd y cwbl yn cael ei ddymchwel pan fydd hi’n sylweddoli bod ei busnes bach del yn methu. Nid yw hi wedi gwneud elw ers mis Awst diwethaf ac nid yw wedi codi cyflog ers mis Ebrill. Mae’r Nadolig ar y gorwel, ac mae’n rhaid iddi gael diwedd da i’r flwyddyn. Ond mae’n symud yn araf tuag at drychineb ariannol, ac yng nghanol hyn i gyd mae’n rhaid i’r ferch sengl hon apelio i ddarpar briodferched a chadw gwên ar ei hwyneb er gwaethaf popeth. Ymddengys bod ei lwc yn newid pan ddaw dyn ei breuddwydion i mewn i’r siop, tan iddo ofyn am ffrog maint 24, gan ddweud ei bod hi ar gyfer ei chwaer! Mae The Bankrupt Bride yn gyfle unigryw i weld drama newydd yn cael
ei datblygu, a honno’n un a ddyfeisiwyd gan y cwmni ac a ysgrifennwyd
gan awdures Gymreig newydd a dawnus, Cath Chandler. “Mae arddull Theatr na n'Óg...a’u...safonau proffesiynol uchel yn diffinio’r cwmni. Mae The Princess and the Hunter yn ddarn da arall o theatr lwyddiannus iawn...” Michael Kelligan – Theatre Wales Mae gan Theatr na n'Óg enw da erioed am waith o ansawdd uchel ac ni chewch eich siomi yn y cynhyrchiad hwn!
|