![]() |
![]() |
|
|
![]() Y Blaidd Mawr Drwg
Pwy sydd ag ofn y blaidd mawr drwg? Pawb, mae’n debyg! Mae e wedi chwythu tai’r moch i lawr, wedi hel y saith plentyn bach i ffwrdd a nawr mae’n gwisgo dillad mam-gu. Ond yna daw Hugan Goch Fach i ddysgu gwers fythgofiadwy i’r Blaidd Mawr Drwg. Yn teithio yn ystod Gwanwyn 2007, mae Y Blaidd Mawr Drwg yn dair stori enwog o fewn un cynhyrchiad ysblennydd. Drama gerddorol hwyliog am gyfeillgarwch ac am ddechrau, canol a diweddglo newydd! Teithiwyd Y Blaidd Mawr Drwg yn llwyddiannus yn ystod Gwanwyn 2004 ac roedd yn llwyddiant mawr gyda’n hysgolion lleol: “Sgript, cerddoriaeth, canu, actio, golygfeydd a gwisgoedd ardderchog. Roedd yr holl blant ac oedolion a welodd y sioe yn credu ei bod hi’n wych. Y prosiect gorau hyd yma. Da iawn!” Ysgol Gynradd Ystumllwynarth “Cynhyrchiad ardderchog – hwyliog a chymhellgar tra’n cyflwyno neges bwysig. Roedd y cynhyrchiad yn hygyrch i’r holl ddisgyblion ac fe wnaeth bawb ei fwynhau!” Ysgol Gymunedol Gors Hefyd cofiwch am Fi, y Cawr! fydd yn teithio yn 2008. Dyma un o’r cynyrchiadau mwyaf poblogaidd yn dychwelyd gyda’r un naws ac awyrgylch hudol â’r tro diwethaf. I gael gwybodaeth bellach cysylltwch â Victoria Goddard. Y Blaidd Mawr Drwg - AddysgMae pecyn adnoddau cynhwysfawr ardderchog ar gael i gyd-fynd â’r cynhyrchiad hwn a ysgrifennwyd gan athrawon i athrawon pan deithiodd y sioe yn ystod 2004. Felly fel adnodd addysgol ychwanegol rydym yn datblygu cwdyn straeon ymarferol i’w ddefnyddio yn y dosbarth i ddisgyblion sy’n dymuno rhoi gwedd newydd ar straeon traddodiadol. Trwy amnewid a pharu cymeriadau o straeon tylwyth teg a chreu dechrau, canol a diwedd newydd i’r straeon confensiynol, bydd disgyblion ac athrawon yn cael hwyl yn creu straeon, eu hadrodd a gwneud gwaith byrfyfyr.Mae Gweithdai Drama ar gael gyda’r cynhyrchiad hwn. Gweithdy: Mix, Match & Muddles Mae Goldilocks â’i golwg ar Hansel. Mae’r ellyll yn prancio i’r dref gyda’r dywysoges Gwsg i wneud ychydig o siopa. Ac mae Sinderela yn mynd ar streic gyda’r 7 corrach bach i fynnu tâl teg a hawliau cyfartal. Mae’r gweithdy hwn yn defnyddio byrfyfyr a thechnegau chwarae llawn dychymyg i ddarganfod beth sy’n digwydd pan mae cymeriadau straeon traddodiadol yn cwrdd yn y mannau rhyfeddaf. Beth sy’n digwydd pan fydd eu straeon yn cymysgu a pha fath o ddiweddglo gallwn roi i’n straeon? I archebu perfformiad i’ch hysgol cysylltwch â Rachel Lloyd, Swyddog Addysg ar 01639 641 771. Os ydych yn Rheolwr Lleoliad a fyddai’n hoffi derbyn ein pecyn marchnata, gweld cynhyrchiad cyfredol neu archebu’r cynhyrchiad ardderchog hwn, cysylltwch â Victoria Goddard, Swyddog Datblygu Creadigol ar 01639 641 771
|