![]() |
![]() |
|
|
![]() Beyond WordsProsiect Theatr mewn Addysg i Flynyddoedd 10 a 11 Mae Beyond Words yn cynnig ffordd ddychmygus i ysgolion uwchradd ddangos testunau gosod TGAU Saesneg i ddisgyblion Blynyddoedd 10 a 11. Nod y prosiect yw helpu ymgeiswyr TGAU Saesneg, yn enwedig y rheiny yr ystyrir eu bod yn ddysgwyr amharod, drwy ddangos darnau wedi’u perfformio o destunau gosod TGAU Saesneg am yn ail â gweithgareddau gweithdy byr. Cymerir y darnau testunau gosod o An Inspector Calls (J.B Priestley), Of Mice and Men (John Steinbeck) a Stone Cold (Robert Swindells). Trwy ddod â’r geiriau ar y dudalen yn fyw, mae’r actorion yn atgyfnerthu’r broses ddarllen i fyfyrwyr mewn ffordd bwerus. Mae’r gweithgareddau gweithdy sy’n digwydd bob yn ail gyda’r darnau o berfformiadau yn galluogi myfyrwyr i archwilio a deall agweddau ar y testunau, wedi’u harwain a’u cefnogi gan y pedwar actor, gan ddefnyddio technegau gweithdai drama profedig. Mae Pecyn Adnoddau Addysgol cynhwysfawr yn cyd-fynd â’r perfformiad, gyda hwnnw wedi’u lunio gan athrawon Saesneg ysgolion uwchradd
|