![]() |
![]() |
|
|
![]() Prawf Elgan Jones
Bachgen 12 oed wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth. Mae’r treial yn dechrau yr wythnos hon. "Mae Theatr na n'Óg yn haeddu ei enw da am ddrama o ansawdd uchel a anelir at blant o bob oed, ac mae’r cynhyrchiad anhygoel hwn yn sicr yn un o’r darnau gorau hyd yma. Mae’r gwaith hwn yn llawer mwy na drama yn unig - mae’n brofiad theatrig cyflawn lle caiff y gynulleidfa eu tynnu i mewn i’r digwyddiadau mewn mwy nag un ffordd". South Wales Evening Post Theatr mewn Addysg ar ei orau – dyna yw Prawf Elgan Jones! Mae prosiect y flwyddyn hon i blant Blynyddoedd 5 a 6 yn dod â chaledi realiti bywyd i fachgen dosbarth gweithiol mewn cymdeithas Fictoraidd yn fyw. Gyda bwyd yn brin i’w frodyr a’i chwiorydd iau, mae Elgan yn penderfynu potsio ar Stad gyfoethog Margam. Yn yr erwau o erddi gwledig a’r coetiroedd gwyrdd llawn anifeiliaid hela, teimla Elgan ei fod ond yn deg iddo ddal un gwningen i fwydo ei deulu. Ond caiff Elgan ei ddal mewn magl llawn twyll ac fe’i cyhuddir o lofruddiaeth. Mae’r Rheithgor Fictoraidd yn cynnwys plant 9 - 11 oed. Wrth iddynt weld y digwyddiadau a chlywed tystiolaeth, mae’n rhaid iddynt benderfynu a yw Elgan yn euog neu’r ddieuog. Os caiff ei gael yn euog caiff ei ddedfrydu i “grogi o’i wddf tan ei fod yn farw!” neu ei anfon i Awstralia, ac ni fydd yn gweld ei deulu fyth eto. Erbyn diwedd rhediad y cynhyrchiad gwych hwn, bydd dros 4650 o ddisgyblion wedi gweld y sioe ac wedi profi’r gweithgareddau addysgol. Cafwyd ymateb calonogol dros ben gan athrawon yn ystod y rhagddangosiad, ac mae eu sylwadau positif yn parhau drwy’r ffurflenni gwerthuso y maent yn eu cwblhau ar ôl gweld y sioe gyda’u disgyblion: “Profiadau uniongyrchol gwych i’r plant. Braf oedd gweld y plant yn cydweithio ar y rheithfarnau. Does dim byd tebyg i theatr fyw i brofi emosiynau bywyd y gorffennol. Cafodd ei berfformio’n wych, ac roedd y rhyngweithio rhwng y gynulleidfa a’r actorion ar y diwedd yn syniad ardderchog. Dyna ffordd ragorol i ddysgu.” Ysgol Gynradd Rhydyfro “Wedi mwynhau’r perfformiad yn fawr iawn. Unwaith eto cafwyd
perfformiad safonol sy’n berthnasol i’r grwˆp oed a gyda
chyfeiriadau hanesyddol priodol.” “Perfformiad ardderchog gydag effeithiau golau a sain anhygoel. Roedd yr holl ddisgyblion (a’r athro) yn teimlo’n chwilfrydig ac yn rhan o’r cynhyrchiad. Diolch.” Ysgol Gynradd Cadle Prosiect rhyngweithiol yw Prawf Elgan Jones i ysgolion o Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot. Yn ogystal â’r perfformiad, mae’r plant hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn Amgueddfa Abertawe. Mae pecyn adnoddau cynhwysfawr a CDRom ar gael i athrawon hefyd, yn ogystal â gweithdai drama cefnogol. ‘Roedd y gwerth addysgol i’r plant yn rhagorol, yn llawer
gwell na darllen llyfr.’ Ceir perfformiadau arbennig gyda’r nos ond mae nifer y seddau yn gyfyngedig. Cysylltwch â Victoria Goddard, Swyddog Datblygu Creadigol ar 01639 641 771 os hoffech fod yn aelod o’r rheithgor ar gyfer y cynhyrchiad rhyngweithiol hwn. Adolygiadau ar gyfer cynhyrchiad y llynedd i flynyddoedd 5 a 6: “Mae’r cyfarwyddwyr Geinor Styles a Phylip Harries yn amlwg
yn deall eu cynulleidfaoedd ifanc ac yn sicrhau nad yw’r cynhyrchiad
byth yn syrthio i’r fagl o fod yn nawddoglyd tuag at bobl ifanc
neu yn siarad i lawr â hwy. Mae hwn yn ddarn ardderchog o waith,
ac yn tanlinellu pwysigrwydd y celfyddydau perfformio fel teclyn addysgol
i helpu plant heddiw i ddeall eu hanes eu hunain drwy ei weld yn digwydd
o flaen eu llygaid - a chael eu diddanu ar yr un pryd” “Dyma’r wibdaith orau i ni ei chael erioed… rwy’n mynd i ddweud wrth fy nheulu am Stowaway” Chloe Morgan 11 oed AddysgLluniwyd y pecyn adnoddau i athrawon gan 3 athro ysgol gynradd fu ar secondiad gyda’r cwmni yn gynharach eleni gyda’n Swyddog Addysg, Rachel Lloyd. Wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â’r sgript, y cymeriadau o’r ddrama a hanes y cyfnod, mae llyfryn i athrawon yn cynnwys taflenni gwaith, syniadau ar gyfer y dosbarth, taflenni ffeithiau, gweithgareddau gwaith grwˆp, cyfleoedd ysgrifennu creadigol a llawer mwy. Mae CDRom ar gael hefyd i’w defnyddio gyda byrddau gwyn rhyngweithiol ac i athrawon allu argraffu delweddau a thudalennau o’r sgript i’w defnyddio yn y dosbarth. Gellir gweld enghraifft o rai o’r tudalennau o’r llyfryn adnoddau fel pdf isod. Mae’r pecynnau adnoddau cynhwysfawr ac ymarferol ar gael am ddim i ysgolion sydd wedi archebu’r cynhyrchiad. Wrth weithio mewn partneriaeth ag Amgueddfa Abertawe, gall disgyblion gymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol yn ystod ail hanner eu diwrnod gwibdaith. Cafodd y gweithgareddau hyn hefyd eu datblygu gan yr athrawon ar secondiad, ac roeddent yn cynnwys chwarae rôl gyda phropiau a gwisgoedd, gêm fwrdd ar ffurf ‘battleships’ rhwng y potsiwr a’r cipar o’r ddrama, gêmau dyfalu gwrthrychau a helfa hel achau. Dilynir hyn gan drip o gwmpas yr amgueddfa a sleidiau bywyd yn Oes Fictoria, ac mae’r diwrnod cyfan yn cynnig profiad dysgu dwys ond hwyliog i ddisgyblion Blynyddoedd 5 a 6 sy’n astudio’r cyfnod Fictoraidd neu bynciau hanes lleol y Cwricwlwm Cenedlaethol. Er mwyn ymestyn y profiad theatrig mae Theatr na n'Óg hefyd yn cynnig gweithdai drama mewn ysgolion i ddisgyblion ar ôl iddynt weld y sioe. Gweithdai DramaGellir archebu gweithdai drama gyda’r cynhyrchiad o Prawf Elgan Jones, i ddigwydd yn eich ysgol ar ôl gweld y sioe. Mae’r gweithdai drama yn defnyddio sgiliau drama sylfaenol, byrfyfyr a thechnegau cymeriadu i greu sgetsys byr sy’n gysylltiedig â’r cynhyrchiad ac yn edrych ar rôl y cyfarwyddwr, yr actor, y sgriptiwr a’r gynulleidfa. Nid oes angen unrhyw brofiad drama blaenorol. Mae cysylltiadau cwricwlwm â Llythrennedd yn cynnwys cwmpasu sgiliau siarad a gwrando, gwaith grwˆp a chreu testunau dramâu. Mae disgyblion yn creu sgetsys y gellir eu datblygu ymhellach yn y dosbarth naill ai i ddechrau sgriptio fel rhan o’ch sesiynau llythrennedd, neu, gyda mwy o amser ymarfer, gellir creu’r golygfeydd yn ddrama fer. Mae pob gweithdy yn para 1 1/2 awr i bob dosbarth a gellir ei drefnu i gydweddu ag amserlen eich ysgol. Mae angen gofod mawr arnom e.e. neuadd neu ddosbarth mawr yn wag o fyrddau a chadeiriau. Cost y gweithdai yw £50 yr un. Ymatebion y llynedd i’r gweithdai oedd yn cyd-fynd â’r cynhyrchiad o Stowaway: “Ychwanegiad gwerthfawr iawn i’r gwaith yr oeddem eisoes yn ei wneud ar Stowaway. Roedd y plant yn frwdfrydig a chawsant gyfle i ddatblygu eu sgiliau mewn sawl ffordd wahanol yn ystod y sesiwn. Parhawyd ac estynnwyd y gwaith yn y dosbarth - mae ein cynlluniau gwaith wedi cael eu diwygio yn briodol.” Ysgol Gynradd y Garth “Roedd y sgiliau yn berthnasol tu hwnt – gan ein bod yn edrych ar ddatblygu cyfathrebu ar draws y cwricwlwm fel sgil allweddol. Fe wnaeth yr athrawon a’r staff fwynhau’r sesiwn yn fawr a theimlais fod y gweithdy yn cynnig gwerth da am arian! Da iawn” Ysgol Gynradd Casllwchwr
|