![]() |
![]() |
|
|
![]() Rhaglen Ddrama Allgymorth CymunedolWedi ei sefydlu eisoes fel cwmni Theatr mewn Addysg blaenllaw yng Nghymru, mae Theatr na n'Óg yn bwriadu ymestyn ei waith y tu hwnt i brosiectau wedi’i seilio mewn ysgolion i mewn i’r gymuned leol, gyda rhaglen o brosiectau cyfranogiad celfyddydol theatr allgymorth. Amcanion y rhaglen allgymorth yw:
Mae’r prosiectau yn cynnwys:
Mae’r Coalfields Regeneration Trust wedi dyfarnu grant i ni er mwyn gwneud y rhaglen allgymorth hon yn bosib ac rydym yn ddiweddar wedi penodi Cydlynydd Drama Allgymorth newydd i roi cychwyn ar y flwyddyn beilot. Bydd y clybiau drama ar ôl ysgol a’r theatr ieuenctid yn dechrau ym mis Medi yn Theatr na n'Óg, yn ogystal â grwpiau Cymraeg a gefnogir gan weithdy’r Urdd fydd yn dechrau yng Nghastell-nedd ac Abertawe. Theatr Ieuenctid Theatr na n'ÓgBydd y Theatr Ieuenctid i bobl ifanc rhwng 12 a 16 oed (Grwpiau Blwyddyn 7 - 11) yn treulio’r pedwar bloc hanner tymor cyntaf ar wahanol sgiliau drama, gydag amrywiaeth o ymarferwyr theatr yn ystod y flwyddyn. Bydd y tymor olaf yn defnyddio’r sgiliau o’r sesiynau blaenorol mewn cynhyrchiad diwedd blwyddyn gyda’r grwpiau drama eraill yn dangos eu gwaith ar yr un noson. Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal ar nos Fawrth rhwng 6.30pm - 8.00pm yn ystod tymor yr ysgol yn unig, ac yn costio £25 ar gyfer pob bloc hanner tymor. Clybiau Drama Theatr na n'ÓgBydd y Clybiau Drama ar gyfer plant 5 i 11 oed yn gweithio ar sgiliau drama, chwarae dychmygus, chwarae rôl a phrofiad o’r theatr. Byddant yn gweithio tuag at gyflwyniad i rieni bob tymor ond ni fydd pwysau cynhyrchiad diwedd blwyddyn mawr. Bydd sesiynau yn ymwneud â dysgu sgiliau drama ond hefyd yn cwmpasu adeiladu hunan hyder, gweithio ar sgiliau cyfathrebu a chydsymud, bod yn greadigol ac annog syniadau a gwaith tîm. Clwb Drama dydd Mawrth 3.45pm – 4.45pm 5 – 7 oed (Bl. 1
- 3) yn Saesneg Am wybodaeth bellach neu i ofyn am ffurflen gais cysylltwch â Samantha Timmins, Cydlynydd Drama Allgymorth ar 01639 641771. Bydd ein Clwb Drama a Theatr Ieuenctid Cymraeg yn dechrau yng Nghastell-nedd ac Abertawe a chaiff ei gefnogi a’i gydlynu gan yr Urdd. Am wybodaeth bellach cysylltwch ag Eleri Griffiths ar 01792 560 624 CAM CYNTAF - Grŵp Rhieni a Phlant Bach (+image)Cam Cyntaf yw ein grŵp Rhieni a Phlant Bach newydd. Grŵp newydd i rieni a’u plant bach. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys adrodd straeon, gweithgareddau celf a chrefft, rhigymau a symudiadau mewn awr hwyliog o amser pwysig i chi a’ch plentyn o dan gyfarwyddyd ymarferydd theatr proffesiynol. Gan ddechrau ym mis Tachwedd, cynhelir y sesiynau bob pythefnos ar fore Gwener. DYDDIADAU: 10fed Tach, 24ain Tach, 1af Rhag Mae’r tocyn £4.00 i un rhiant/gofalwr ac un plentyn yn gynhwysol. Bydd y ddau ohonoch yn cymryd rhan yn y sesiwn. Mae’r lleoedd yn gyfyngedig ac mae angen archebu tocynnau ymlaen llaw. Am fwy o wybodaeth neu i archebu lle i chi a’ch plentyn, cysylltwch â Victoria Goddard neu Samantha Timmins ar 01639 641771. Bydd prosiectau eraill sy’n dechrau ar ôl y Nadolig yn cynnwys gweithdai bore Sadwrn ac yn ystod gwyliau’r ysgol i bob oed, Datblygiad Proffesiynol Parhaol i athrawon ysgolion cynradd mewn defnyddio drama yn y dosbarth a dosbarthiadau adrodd straeon i rieni. Mae diddordeb gennym hefyd mewn creu partneriaethau a datblygu prosiectau newydd gyda’n cymuned leol felly cysylltwch â ni os hoffech drafod unrhyw gyfleoedd gyda Theatr na n'Óg.
|