![]() |
![]() |
|
|
![]() WebPlayRhaglen addysg gelfyddydol yn seiliedig ar y we yw WebPlay. Mae’r prosiect yn galluogi plant ysgol gynradd i greu a chynhyrchu dramâu tra’n gweithio mewn cydweithrediad â chwmni theatr proffesiynol a myfyrwyr o ysgol bartner. Dewiswyd Theatr na n'Óg i weithio gyda Webplay ar eu rhaglen “o’r dudalen i'r llwyfan”. Mae dosbarthiadau yn rhyngweithio ar-lein gyda chwmni theatr proffesiynol er mwyn monitro sut mae drama yn cael ei chreu, gan gyfathrebu’n wythnosol â’r awdur, y cyfarwyddwr, yr actorion a'r tîm cefn llwyfan. Yna bydd dosbarthiadau yn mynd ar daith maes i weld y ddrama yn cael ei pherfformio’n fyw, a chyfranogi mewn gweithdy ar ôl y sioe i greu eu dramâu eu hunain. Ar gyfer ein prosiect peilot byddwn yn gweithio gyda dwy ysgol leol gyda’r cynhyrchiad o Y Blaidd Mawr Drwg. Mae ein cynhyrchiad ar gyfer blynyddoedd 1 a 2 yn sioe weledol iawn. Fel arfer rydym yn anelu at gael set liwgar sy’n debyg i lyfr straeon. Gobeithiwn y bydd canolbwyntio ar yr elfen gynllunio o ddiddordeb i ddisgyblion ac yn ennyn eu diddordeb yn y prosiect. Bydd ganddynt gyfle i edrych ar elfen gynllunio cynhyrchiad; o’r set a’r gwisgoedd i’r poster marchnata. Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda disgyblion Blynyddoedd 3 a 4, gan godi ymwybyddiaeth o theatr ac ymarferwyr theatr o fewn y dosbarth, a chodi hunan barch a hunan hyder y disgyblion hynny fydd yn gweithio gyda chynllunwyr proffesiynol ac ymarferwyr theatr. Gobeithiwn bydd y prosiect yn adeiladu hefyd ar y berthynas dda sy’n bodoli eisoes rhyngom ni a’r ysgolion peilot er mwyn iddynt fod yn eiriolwyr dros waith y Cwmni a’r prosiect “o’r dudalen i’r llwyfan” yn y dyfodol. I gael mwy o wybodaeth am y prosiect hwn gyda Theatr na n'Óg, cysylltwch â Rachel Lloyd, Swyddog Addysg ar 01639 641771 neu e-bostiwch rachel@theatr-nanog.co.uk I gael manylion pellach am Webplay edrychwch ar www.webplay.org
|