Datganiad Hinsawdd
Mae Theatr na nÓg yn cydnabod ein bod mewn argyfwng hinsawdd a bod gennym gyfrifoldeb y tu hwnt i’n rhwymedigaethau cyfreithiol i anelu at niwtraliaeth garbon cyn gynted â phosibl.
Rydyn ni’n cydnabod natur fyrhoedlog y gwaith a grëir gan ein diwydiant, ac y gall pob rhan o gynhyrchiad y theatr gael effaith ar yr amgylchedd - o’r deunyddiau crai a ddefnyddir ar gyfer setiau, gwisgoedd, goleuadau a seiniau, i’r teithiau a gymerir gan y gynulleidfa i weld perfformiad.
Rydyn ni’n credu y gall ein straeon fod yn rhan o’r ateb am fod theatr yn gallu addysgu ac agor meddyliau pobl, yn ogystal â dyfnhau eu dealltwriaeth o’n byd naturiol. Er bod ein straeon blaenorol wedi canolbwyntio ar yr amgylchedd, rydyn ni’n cyfaddef nad yw hynny’n ddigon, a bod yn rhaid inni ailymrwymo i hoelio ein sylw ar yr amgylchedd oddi ar y llwyfan hefyd.
Rydym yn falch o gael ein cydnabod gan Gomisiynydd y Gymraeg wrth gynnig Cynllun Datblygu Cynnig Cymraeg. Ein 5 ymrwymiad i’r Gymraeg o dan y cynllun yw:
- Rydym yn darparu cynyrchiadau iaith Gymraeg o safon uchel dros Gymru a thu hwnt.
- Rydym yn darparu gweithdai ymgysylltiol yn Gymraeg i grwpiau ysgol a chymunedau.
- Rydym yn cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o fewn y diwydiant theatr, yn cynnig y cyfle i weithio yn y Gymraeg.
- Rydym yn darparu adnoddau dwyieithog i ysgolion i gydfynd gyda’n cynyrchiadau i ysgolion.
- Rydym yn anelu i gynyddu'r nifer o gynyrchiadau iaith Gymraeg, yn gweithio gyda chyd-gynhyrchwyr yn y cymoedd i ymgysylltu gyda’u siaradwyr a dysgwyr Cymraeg lleol.