Mae 'Y Naid' yn ddarn theatr actio byw arobryn, a gomisiynwyd gan Awdurdod Harbwr Caerdydd i godi ymwybyddiaeth o beryglon ymddygiad gwrthgymdeithasol fel neidio a nofio mewn dyfrffyrdd heb oruchwyliaeth. Gyda hafau hir a phoeth, mae’n bwysicach nag erioed bod gan ein pobl ifanc y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud y penderfyniadau cywir.
Dywedodd 91% o athrawon fod cynhyrchiad y llynedd yn wych.
'Dwi'n edrych mas i'r dwr, mae'n edrych yn llonydd, mae'n disgleirio ac yn pefrio, yn ddeniadol. Yna dwi'n clywed llais yn dweud:
Go on te, am be ti'n aros...?
Gad fi fod...
Wel, roeddet ti moyn neud e...'
Mewn gwirionedd, dydy e ddim eisiau neidio, ond does neb eisiau cael ei alw'n gachgi. Nid yw'n sylweddoli ar y pryd faint mae'r penderfyniad mae'n mynd i wneud yn yr eiliadau nesaf yn mynd i newid gweddill ei fywyd.
Daw’r sioe hon i ysgolion am ddim diolch i gefnogaeth gan ein partneriaid Awdurdod Harbwr Caerdydd, Celfyddydau & Busnes Cymru, Boskalis Westminster, Mermaid Quay a Phorthladd Aberdaugleddau.
Poeni am gostau bws?
Gallech wneud cais am grant gan Gronfa Ewch i Weld Cyngor Celfyddydau Cymru.
Gall ysgolion wneud cais am hyd at £1,000 i dalu hyd at 90% o gostau profiad celfyddydol, a gall hyn gynnwys eich costau cludiant.
I ddarganfod mwy ac i wneud cais cliciwch yma.
Ysgolion Cynradd ac Gyfun Caerdydd a'r Fro
Ar gael yn Saesneg ym Mae Caerdydd o Fai 20fed-24ain ac yn Gymraeg o Fehefin 3ydd-7fed.
Bydd eich diwrnod yn cynnwys:
- Perfformiad 40 munud o Y Naid yng Nghanolfan Gelfyddydau'r Eglwys Norwyaidd. (Am 10yb, 11:30yb neu 1:30yp)
- Holi ac Ateb gyda'r actorion i drafod themâu'r sioe
- Gweithdai diogelwch dŵr am ddim gyda’r gwasanaethau brys a drefnir gan Awdurdod Harbwr Caerdydd.