Cydweithrediad rhwng Cymru, Cyprus, Malta a Sbaen ac wedi’u hariannu gan Erasmus+.

Mae effaith pandemig Covid-19 wedi cael ei deimlo byd-eang ac wedi effeithio pawb, yn enwedig plant a phobl ifanc. Roedd ysgolion ar gau i ddisgyblion, yn gadael nifer o bobl ifanc yn pryderu am eu dyfodol. Collodd disgyblion allan ar ddatblygu eu hyder, sgiliau iaith, perthnasau gyda ffrindiau a derbyn cymorth o athrawon. Mae’r profiad yma wedi effeithio’n negyddol ar eu lles emosiynol.

Rydym yn gweithio ar y cyd gydag arbenigwyr creadigol yn y celfyddydau ac addysgwyr proffesiynol yn Sbaen, Malta, Cyprus ac yng Nghymru i greu gwersi a gweithgareddau sy’n defnyddio amrywiaeth o ffurfiau creadigol i alluogi dysgwyr a disgyblion i fynegi eu teimladau. Rydym ni wedi treialu gweithdai perfformio yn YGG Bryn Tawe a YGG Lon Las gyda disgyblion o flwyddyn 5 a blwyddyn 8. Pwrpas y gweithdai yw i annog pobl ifanc i archwilio eu hemosiynau mewn ffordd anuniongyrchol trwy waith masg, amrywiaeth o gemau drama, adlewyrchu a gwaith sgript. Mae’r gweithdai hefyd yn archwilio'r eirfa rydym yn defnyddio wrth drafod emosiynau, gan ganolbwyntio ar yr iaith Gymraeg. Mae sgiliau hyder hefyd yn cael eu datblygu yn y gweithdai yma.

Partneriaid y prosiect:

International Links Global Ltd
Organization for Promotion of European Issues
E.P.P. Artistic Dimensions Cyprus
Malta Film Foundation
Conselleria de Educación, Cultura y Deporte
Ysgol Gynradd Gymraeg Lon Las 
Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe 
Gymnasium Panagias Theoskepastis 
4th Primary School of Paphos- Kato Pervolia
IES F. Ribalta 
Mikiel Anton Vassalli College

 

Yn fis Mai 2022, mynychon ni Cyfarfod Prosiect Trawswladol yn Paphos, Cyprus i gwrdd â phartneriaid y prosiect. Derbynon ni croeso cynnes iawn o’r staff a’r disgyblion yn y 4th Primary School of Paphos a pherfformiwyd caneuon a dawnsiau traddodiadol. Trion ni bwyd traddodiadol a chymeron ni rhan mewn gweithgareddau traddodiadol – ymweliad i Fedroddau y Brenhinoedd, Parc Archeolegol Kato Paphos a hefyd hen gastell Paphos.

Aethom i Castellón yn Sbaen ym mis Mehefin 2022 i gwrdd â'n partneriaid i drafod cynnydd y prosiect. Roedd Cyfarfod Prosiect Trawswladol yn Ysgol Uwchradd IES Ribalta, un o'r partnerniaid. Yn ystod y cyfarfod roedd cyflwyniad o bob gwlad a buom yn rhannu’r gweithgareddau yr oeddem wedi bod yn eu treialu gyda phobl ifanc ar sut i adnabod, mynegi a delio â’u teimladau.

Yn ystod y daith roedd ymweliad i Valencia a chawsom taith hanesyddol o amgylch y ddinas. Aethom i gyngerdd cerdd yn Universidad de Castellón UJI hefyd. Dyma fideo o'r hyn wnaethon ni ar y daith.