Mae pob cyfraniad yn werthfawr. Rhannwch gydag eraill y mwynhad, yr emosiwn a'r llawenydd a ddaw yn sgil ymweliad â'r theatr drwy roi rhodd ariannol unigol.
Danfonwch y neges TNN wedi'i ddilyn gan y swm yr hoffech ei roi i 70085 (e.e. er mwyn rhoi £10 danfonwch y neges TNN10 i 70085, neu i roi £5 danfonwch y neges TNN5 i 70085).
Bydd cost y neges yn cynnwys eich cyfraniad a phris un neges destun arferol. Gallwch chi gyfrannu unrhyw swm mewn punnoedd cyfan hyd at £20. Byddwn yn anfon ail neges atoch yn gofyn ichi gwblhau datganiad ‘Gift Aid’. Fel elusen gallwn hawlio 25% ychwanegol o werth eich rhodd heb unrhyw gost i chi.(Os hoffech chi gyfrannu ond byddai'n well gennych beidio â derbyn unrhyw negeseuon eraill gennym ni danfonwch y neges TNNNOINFO ac yna'r swm rydych chi am ei roi i 70085, e.e. i roi £5 anfonwch y neges TNNNOINFO5 i 70085.)
Ymunwch â’r gymuned ar-lein trwy ddilyn ein cyfrifon ar-lein a hoffi, rhannu a gadael sylwadau ar ein cynnwys. Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn yr holl negeseuon pwysig.
Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy'n cyfrannu eu hamser i gefnogi ein gwaith. Yn aml mae angen help gwirfoddolwyr arnom i gefnogi prosiectau mawr, yn enwedig wrth weithio gydag ysgolion, i sicrhau bod yr athrawon yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Gall gwirfoddolwyr fod yn unrhyw oedran – rydyn ni hyd yn oed wedi cael rhai gwirfoddolwyr yn gwisgo mewn gwisg ffansi ar gyfer yr achlysur!
Byddwch yn llysgennad dros ein gwaith. Os oeddech chi wrth eich bodd â sioe, gweithdy neu brosiect gan Theatr na nÓg dywedwch wrth bawb! Argymhellion personol yw'r ffordd orau i ledaenu'r gair am yr hyn rydyn ni'n ei wneud.