Sut allwch chi helpu
Rhodd ariannol

Mae pob cyfraniad yn werthfawr. Rhannwch gydag eraill y mwynhad, yr emosiwn a'r llawenydd a ddaw yn sgil ymweliad â'r theatr drwy roi rhodd ariannol unigol.

Ymunwch â Theulu na nÓg

Eisiau rhoi rhodd yn fisol? Ymunwch â Theulu na nÓg ac fe anfonwn dystysgrif atoch i'w rhoi ar yr oergell, a rhoi gwybod i chi am yr holl gyfrinachau teuluol (cewch glywed ein newyddion ni cyn unrhyw un arall!).

family donations
Cyfrannu gyda neges destun

Danfonwch y neges TNN wedi'i ddilyn gan y swm yr hoffech ei roi i 70085 (e.e. er mwyn rhoi £10 danfonwch y neges TNN10 i 70085, neu i roi £5 danfonwch y neges TNN5 i 70085).

Bydd cost y neges yn cynnwys eich cyfraniad a phris un neges destun arferol. Gallwch chi gyfrannu unrhyw swm mewn punnoedd cyfan hyd at £20. Byddwn yn anfon ail neges atoch yn gofyn ichi gwblhau datganiad ‘Gift Aid’. Fel elusen gallwn hawlio 25% ychwanegol o werth eich rhodd heb unrhyw gost i chi.(Os hoffech chi gyfrannu ond byddai'n well gennych beidio â derbyn unrhyw negeseuon eraill gennym ni danfonwch y neges TNNNOINFO ac yna'r swm rydych chi am ei roi i 70085, e.e. i roi £5 anfonwch y neges TNNNOINFO5 i 70085.)
 

donate by SMS
text by SMS
Cefnogwch ni ar-lein

Ymunwch â’r gymuned ar-lein trwy ddilyn ein cyfrifon ar-lein a hoffi, rhannu a gadael sylwadau ar ein cynnwys. Cofrestrwch i'n cylchlythyr i dderbyn yr holl negeseuon pwysig. 

YMUNWCH Â'N RHESTR BOSTIO

DILYNWCH NI

Gwirfoddoli gyda ni

Rydyn ni’n ddiolchgar i bawb sy'n cyfrannu eu hamser i gefnogi ein gwaith. Yn aml mae angen help gwirfoddolwyr arnom i gefnogi prosiectau mawr, yn enwedig wrth weithio gydag ysgolion, i sicrhau bod yr athrawon yn cael yr holl gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Gall gwirfoddolwyr fod yn unrhyw oedran – rydyn ni hyd yn oed wedi cael rhai gwirfoddolwyr yn gwisgo mewn gwisg ffansi ar gyfer yr achlysur!
 

Dywedwch wrth eraill

Byddwch yn llysgennad dros ein gwaith. Os oeddech chi wrth eich bodd â sioe, gweithdy neu brosiect gan Theatr na nÓg dywedwch wrth bawb! Argymhellion personol yw'r ffordd orau i ledaenu'r gair am yr hyn rydyn ni'n ei wneud.