Pwrpas y gweithdai yma yw i ddatblygu sgiliau fel perfformio ac ysgrifennu wrth hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar yr un pryd. Mae’r gweithdai wedi’u targedu tuag at blant o ysgolion Cymraeg a Saesneg, gan fod y gweithdai yn addas i ddysgwyr ail-iaith. Mae’r gweithdai dwyieithog yn creu awyrgylch hwylus a chyfforddus i bobl ifanc mynegi eu hun a chodi hyder wrth fod yn greadigol trwy’r iaith Cymraeg. 

Rydym wedi darparu gweithdai yn y gymuned yn Abertawe dros hanner tymor a hefyd mewn ysgolion yng Nghastell-nedd a Phort Talbot i bobl ifanc rhwng 7 – 15 oed. Os oes diddordeb gyda’ch ysgol chi yn y gweithdai yma ac rydych chi wedi’ch lleoli yng Nghastell-nedd a Phort Talbot neu Abertawe, cysylltwch â ni.

Wnaeth y plant (a staff) fwynhau, sesiwn gret!
Mrs H Selley, Baglan Primary School